chlywsom fod ymddiddan dyddorol wedi bod rhwng William Moris ar un o'i deithiau yn y wlad hon, âg Isaac Moris, Pentyrch-isaf, am Moris Griffith, ac mai y pryd hwnw y deallodd ei ddisgynyddion i fanylrwydd un o ba le ydoedd.
Gwelwn fel yna fod erlid wedi bod yn holl amgylchoedd Brynengan yn mhob cyfeiriad; ond hynod son! prin y symudodd yr un ci ei dafod ar neb yn yr ardal hon. Ni a gredwn, creded ereill fel y mynont, fod yr Arglwydd wedi gosod terfyn o amgylch y mynydd hwn hefyd, ac wedi ei sancteiddio, rhag i'r gelynion ruthro a hylldremu, na myned i fyny i'r mynydd, na chyffwrdd â'i gwr ef. Cyflawnodd yr Arglwydd ei addewid yn llythyrenol â'r eglwys fechan hon: "Byddaf iddi yn fur o dân o amgylch." Credwn hefyd fod yr Arglwydd wedi cyflawni y rhan arall o'i addewid yn y lle hwn laweroedd o weithiau, "ac yn ogoniant yn ei chanol." Gwelwyd hyn lawer gwaith yn odfeuon Daniel Rowland, Robert Roberts, Clynnog; John Elias, Henry Rees, John Jones, Talsarn; a Richard Owen.
Dyma ardal fabwysiedig Robert Dafydd. A pha ryfedd iddo dyfu y fath gymeriad cryf a gwreiddiol yn y fath awyrgylch? Yr oedd y fath gydnawsedd rhyngddo ag awyrgylch grefyddol y lle fel yr attynwyd ef yma yn fachgen ieuanc. Planwyd ef yma yn blanhigyn tyner, a lledodd ei wraidd, ac estynodd ei ganghenau, a daeth yn bren cryf a chadarn, fel y bu yn gysgod i lawer planhigyn tyner am dros dri ugain mlynedd.