lle. Ar eu dychweliad o Langeitho, pan yn croesi y Traeth bach, cawsant eu hamgylchynu gan y llanw, a bu y ddau yn agos i angeu. Dywedir fod Robert Dafydd, yr hwn oedd o faintioli lled fawr, hyd at ei geseiliau yn y dwfr, a Richard Morris, yr hwn oedd yn llai o faintioli, at ei wddf. Ac heblaw fod y dwfr yn ddwfn, yr oedd yn noson oer iawn hefyd o rew ac eira, a rhyfedd oedd iddynt ddianc a'u bywydau ganddynt. Buont am ddyddiau cyn gallu cyrhaeddyd i'w cartrefi, gan faint oedd y lluwchfeydd eira, a chan mor anhawdd oedd myned trwyddynt.
Yn fuan ar ol dyfod i aros i ardal Brynengan, priododd Robert Dafydd, a bu iddo deulu lled liosog. Enw morwynol ei wraig oedd Elizabeth Williams, ac yr oedd yn ferch i un William Jones, Tirdewin, Brynengan. Yr oedd iddi bedair, o leiaf, o chwiorydd, y rhai a ddaethant yn wragedd i rai o brif flaenoriaid yr ardaloedd, sef John Richard ac Evan Ellis, y Garn; a Richard Morris a Robert Hughes, Brynengan. Mae yn rhaid eu bod yn wragedd crefyddol, ac o ragoriaethau neillduol, cyn y buasent yn dyfod yn wragedd i ddynion mor ragorol. Ond yr oeddynt hefyd o dymer danbaid iawn. Mae chwedl am danynt yn aros yn yr ardal sydd yn dangos hyn. Yr oeddyr hen bregethwr Rhisiart William, wedi priodi merch i Robert Dafydd; ac yr oedd chwaer i'w mam, sef gwraig Robert Hughes, y Cenin, yn byw gerllaw iddynt. Daeth Rhisiart William i'r ty un diwrnod, a chlywai sŵn ystorm rhwng y fodryb a'r nith. Ond gwyddai Rhisiart William sut i'w thawelu. Ac meddai, "Hwi hen frid Wil Sion Genin," ac i ffwrdd ag ef. Trodd yr ystorm ar ol hyny i gyfeiriad Rhisiart William, ond yr oedd ef yn ddigon pell erbyn hyn. Daeth yn ol cyn pen ychydig fynudau, ac yr oedd y ddwy yn eistedd yn