Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dawel a siriol wrth y bwrdd, ac yn cyd-yfed tê yn hapus. Enw a roddodd cablwyr y Methodistiaid ar William Jones oedd yr enw uchod, mae yn ddiau. Bu y teulu unwaith yn deulu lliosog yn yr ardal, ond erbyn hyn nid oes braidd yr un yn aros.

Y gwaith, meddir, yr oedd gan Robert Dafydd fwyaf o gymhwysder iddo o bobpeth oedd, cadw seiat. Edrychid arno braidd yn ddigyffelyb yn hyn. Yr oedd amryw bethau yn peri fod ganddo gymhwysder i hyn. Yn y cylch hwn, fel y cyfeiriwyd, y byddai cyfeiriad ei bregethau braidd bob amser. Yr oedd ei blaender hefyd yn ei gymhwyso at y gwaith yma. Honid hefyd iddo ryw graffder mawr i adnabod y rhai y byddai yn ymddiddan â hwy yn y seiadau, trwy fath o reddf grefyddol. Ystyrid fod gan amryw o'r tadau Methodistaidd y gallu hwn. Y penaf o bawb efallai oedd Williams, Pantycelyn. Yr oedd efe yn meddu rhywbeth tebyg i ysbrydoliaeth yn hyn, rhyw ddawn tebyg i'r un y cyfeiria yr Apostol Paul ati,-"gwahaniaeth ysbrydoedd." Yr oedd Ebenezer Morris hefyd yn hynod iawn yn hyn. Ac edrychid ar Robert Dafydd fel yn meddu y ddawn hon i raddau helaeth iawn. Yr oedd yn mysg y "cedyrn cyntaf yn y peth yma. Braidd na allasai ddweyd am dano ei hun yn debyg i fel y dywedodd Pedr Fardd am ei le ef yn mysg beirdd Eifionydd

"Yn drydydd minau droediaf."

Clywsom y diweddar Barch. Dr.. Owen Thomas yn dweyd y byddai galwad mawr arno i'r eglwysi i gadw seiat, am yr ystyrid fod ganddo y gallu hwn mor helaeth. Byddai llawer o'r hen dduwiolion syml, meddai efe, yn awyddus am iddo ymddiddan a hwy, er mwyn gwybod beth oedd ei farn ef am