Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trefniad yn y Dyffryn, ar nos Sabboth; yr un Sabboth yr oedd Robert Dafydd, Brynengan, yn yn y Gwynfryn, am ddau o'r gloch a'r nos. Wrth gyhoeddi ar ddiwedd yr odfa y prydnawn, anogai Robert Dafydd y neb a ewyllysiai i fyned i'r Dyffryn i glywed y gŵr enwog yn pregethu, yn hytrach nac aros yn y Gwynfryn i wrando arno ef. Aros, pa fodd bynag, yn y Gwynfryn a wnaeth llawer, a'r noswaith hono torodd allan yn orfoledd mawr yn y Gwynfryn, y fath ag y bu sôn am dano am amser maith. Yr oedd Humphrey Evans, wedi hyny o Lanfair, a John Davies, tad y Parch. John Davies, gynt o Lanelli, yn llanciau yn eistedd ar ymyl y gallery; a thra y cynhyddai y gorfoledd yn ei rym, neidiasant dros yr ymyl i'r llawr brwyn islaw; gan ymuno â'r gynulleidfa mewn neidio a molianu. Yn mysg y gynulleidfa ar y llawr yr oedd priod Richard Owen, wedi hyny o Runcorn, ac yn ddiweddaf o Penal, yn wraig ieuanc, a baban bychan yn ei breichiau. Hithau hefyd a ddechreuodd neidio a molianu, gan daflu y baban oedd ganddi yn ei breichiau i ffedog ei mam, yr hon a eisteddai yn ei hymyl. Edrychai y ddau hen flaenor o'r sêt fawr ar yr olygfa gyda mwynhad rhyfeddol; ac wrth wele d y wraig ieuanc yn taflu ei baban i ffedog ei mam, ebe John Jones wrth William Richard, Weli di, dyma y brophwydoliaeth yn cael ei chyflawni, "A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturia wrth fab ei chroth? ïe, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.'"

Un o'r pethau mwyaf neillduol yn Robert Dafydd oedd ieuengrwydd ei ysbryd ar hyd ei oes, ac i'w ddiwedd. Os byddai tipyn o eneiniad gyda'r pregethu, neu dipyn o hwyl yn y moddion, fe fyddai ef mor barod a neb i dderbyn yr argraff, ac i godi ei hwyliau i fyned gyda'r awelon nefol. Rhoddir yr hanes canlynol yn Methodistiaeth