farw dyn ieuanc o'r enw Nathaniel Jones, yn perthyn i eglwys Brynengan, yn y flwyddyn 1813, yr hwn oedd yn nodedig am ei weithgarwch gyda'r Ysgol Sabbothol, a'i fedrusrwydd i holi yr ysgol. Yr oedd Robert Dafydd yn teimlo colled fawr ar ei ol. Dywedir ei fod yn edrych arno yn ei arch, a dywedai wrth droi oddiwrtho, gyda theimlad dwys, "Ffarwel hyd foreu yr adgyfodiad." Yr oedd mewn Cyfarfod Misol unwaith pan yr oeddis yn cynghori y pregethwyr ieuainc i beidio pregethu yn faith. Gofynwyd i Robert Dafydd roddi gair o gyngor iddynt. "Nac oes gen i ddim i'w ddyweyd," meddai yntau, "waeth heb na dyweyd wrthynt; rhaid i'r hogia gael dyweyd yr hyn mae nhw wedi ddyfeisio." Fel y cyfeiriwyd, byddai yn ysgwyd yn anghyffredin yn y pwlpud. Byddai felly yn neillduol wrth ganu. Yr oedd yn morio felly ar ddiwedd yr odfa wrth ganu yn amser diwygiad 1832, ac aeth ei wallt mawr i gyraedd y ganwyll, ac aeth ar dân. Neidiodd ei fab, Robert, ato i'w ddiffodd; ac yr oedd yr hen wr yn methu yn lân a deall beth oedd y mater.
Byddai yn bur llym a brâs wrth ddisgyblu, ac wrth ymddiddan â rhai yn y seiat. Yr oedd yn ymddiddan â gwraig yn seiat Brynengan unwaith. Dywedai bethau pur blaen wrthi; ac aeth hithau i wylo. "O," meddai yntau, "crïo y bydd plant pan y bydd rhywun yn trin eu crâch nhw; ac felly yr wyt tithau wrth i minnau drin dy grâch di." Yr oedd un o chwiorydd ei wraig yn dweyd ei phrofiad un tro, ac yn dweyd, "Mi fydda i yn gweld fy hun yn aml yn debyg iawn i Mair Magdalen, o'r hon y bwriodd Iesu Grist saith o gythreuliaid." "Ie, on tê, M.," meddai Robert Dafydd, " ond fod mwy o honyn nhw ynot ti." Tarawai yntau weithiau ar ei fatch. Ymliwiai unwaith a Robert Morris, Hendre Cenin, ei fod yn cyflogi gweision