heb fod yn proffesu crefydd. Yr oedd y ddau yn bur hyf ar eu gilydd. "Rhaid imi gael gwaith ganddyn nhw, pwy bynag gwnaiff o. Ni waeth gen i befo chdi, Robin," meddai Robert Morris.
Er ei fod yn gyffredin yn llym gyda'r ddisgyblaeth eglwysig, eto gallai fod yn dyner iawn, os meddyliai mai hyny oedd oreu er lles y dyn ei hun, a'r achos yn gyffredinol. Yr oedd achos o ddisgyblaeth ger bron seiat Brynengan rywbryd. Cododd brawd pur ddideimlad i fyny, a dechreuodd edliw beiau y cyhuddedig iddo. Prin y cafodd orphen ei druth nad oedd Robert Dafydd i fyny, ac yn tywallt olew i friwiau yr un a gyhuddid,—"Nid edliw beiau y mae ein Duw ni," meddai, "eu maddeu nhw mae o," gan roddi pwys ar y gair "maddeu," ac mewn teimlad dwys. Mae yr un peth i'w weled yn yr hanesyn canlynol, ac y mae rhagoriaethau ereill yn Robert Dafydd yn dyfod i'r golwg yn yr un hanesyn, megis ei ddoethineb a'i allu i gadw cyfrinach. Yr oedd brawd yn perthyn i eglwys Brynengan yn cyflogi yn ffair Wyl Ifan, Criccieth, i fyned i'r cynhauaf gwair i Nant Beddgelert. Mae yn amlwg mai gwr da ydoedd, ond iddo ddigwydd tripio yn yr amgylchiad hwn. Yr oedd hyn cyn dechreu Dirwest, ac felly aeth gyda'i gyflogydd ir dafarn, ac yfodd ryw gymaint o'r ddiod feddwol. Erbyn iddo ddyfod allan i'r awyr agored, gwelai ei fod i raddau o dan ddylanwad y ddiod. Slipiodd yntau yn ddirgelaidd i gae oedd gerllaw, a chysgodd am ryw gymaint o amser yno. Deffrôdd cyn hir, ond ofnai ei fod eto i ryw raddau ag arwyddion meddwdod arno; ac felly aeth adref ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau mwyaf dirgelaidd. Aeth hyn yn boen fawr iddo, ac yn niniweidrwydd a gonestrwydd ei galon aeth at Robert Dafydd y cyfleustra cyntaf a gafodd i ddweyd på fodd y bu. Adroddai yr holl hanes yn fanwl a hollol onest. Gwrandawai