Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedai wrth un arall ei fod yn rhoi gormod. Ar un adeg cwynid yn fawr oblegid amhrydlondeb yn dyfod i'r seiat ganol yr wythnos, yr hon a gynhelid foreu ddydd gwaith. Yr oedd Robert Dafydd wedi dwrdio llawer oblegid hyn; ond nid oedd hyny yn tycio dim i gael y bobl i wella. Gan hyny, meddyliodd am gynllun newydd. Dechreuodd hi un tro i'r fynud, gyda hyny oedd wedi dyfod yn nghyd, Aeth trwy yr holl wasanaeth yn bur fyr. Yna aeth tua chartref, gan gloi drws y capel. Ar y gors yn agos i'w dŷ, yr oedd haner nifer yr aelodau yn ei gyfarfod yn myned i'r seiat. Gofynodd yntau iddynt i ble'r oeddynt yn myned? "I'r seiat," meddent hwythau. "Mai hi wedi darfod," meddai yntau, yn bur sych. Dywedir fod hyn wedi diwygio llawer arnynt oddiwrth y bai hwn.

Yr oedd rhywbeth yn werinaidd a phlaen a gwledig iawn yn mhob peth a berthynai iddo. Er ei fod "yn hen ŵr glân, a chroen gwyn ganddo, ac heb un blewyn o farf," eto yr oedd yn hollol wledig yn mhobpeth. Yr oedd felly yn neillduol yn ei wisg. Gwisg o frethyn cartre plaen fyddai bob amser am dano, clôs melfered gwyn, a hosanau gwynion, a'r rheiny yn y golwg o'r pen glin i lawr. Felly y gwelwyd ef ganoedd o weithiau yn myned i'w gyhoeddiadau Sabbothol. Yfai ddwfr o ffynon gerllaw bob boreu, y peth cyntaf a wnai ar ol codi. Bwyd cyffredin iawn ganddo oedd tatws a llaeth, a bara ceirch wedi ei falu yn gymysg âg ef. Buasai yn rhyfedd clywed neb yn y dyddiau mursenaidd hyn yn anerch gorsedd gras fel hyn:—"Achub ni i gyd, bod yg un un, o bant i bentan, fel yr yda ni yma." Dywedai yn fynych ar ganol pregethu :

"Mi gana beth o'r fan lle'r wy',
Pan af i'r nef mi gana fwy."