Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd ganddo bregeth ar Ruth, a'r pennill a roddai allan ar y diwedd fyddai:

"Awn gyda Ruth i loffa,
I feusydd Boaz fry," &c.


Ac wrth ganu rhedai dros y llinell tra y byddai ereill yn myned dros ryw un gair neu sill. Wrth bregethu mewn lle pur galed unwaith, dywedai :"Arglwydd anwyl, deffro'r bobol. Waeth gen i bregethu i bac o fawn gwlybion nag i chitha."

Er mai hen wehydd cyffredin oedd Robert Dafydd, eto cai barch mawr yn holl gylchoedd y Methodistiaid ar gyfrif ei synwyr da, ei ddull naturiol a dirodres, cywirdeb ei amcanion, a'i olwg batriarchaidd. Dywedir am y gwr mawr hwnw, Mr. Charles o'r Bala, y mwyaf ei ddefnyddioldeb a fu yn Nghymru erioed, fod ganddo feddwl uchel o Robert Dafydd, a'r parch mwyaf iddo. Dywedir ei fod yn ysgrifenu adref ar un o'i deithiau, ac yn dweyd:—"Cefais y fraint o gysgu un noson yn hen wely gwellt y duwiol Robert Dafydd Brynengan." Yr oedd gan Gyfarfod Misol ei sir hefyd feddwl uchel o hono. Ymddiriedid iddo yn fynych y gorchwyl o geisio gwastatau cwerylon mewn eglwysi. Yr oedd wedi ei anfon unwaith i eglwys yn Aberdaron, lle yr oedd hen flaenor pur ystyfnig. Gwelai Robert Dafydd nad oedd dim plygu na maddeu yn ei natur, a throdd ato, a dywedodd, "Wel, yr wyt ti yn debyg iawn i gythraul, ond 'dydw i ddim yn dweyd mai cythraul wyt ti." Yr oedd ganddynt feddwl mor fawr o'i gywirdeb, ei degwch, a'i ddoethineb, fel y meddylient, os gallai rywun ddwyn trefn yn yr eglwys mai Robert Dafydd oedd y gwr. Gyrid ef yn fynych i gadw seiadau ar daith trwy y wlad. Dyna oedd dull yr hen bobl yn fynych o drefnu ymweliad â'r eglwysi. Clywsom y diweddar Barch. Robert