Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y seiat yn y Carneddi. Dynes gwerylgar ydoedd. Rywfodd, er heb gyfarwyddyd gan neb, fe ddeallodd Robert Dafydd pa fath un ydoedd, ac fe roes yr ymgeledd angenrheidiol iddi. Pan godwyd y diweddar Richard Thomas, Hendrebach, Pencoed, yn flaenor, dywedodd,—"Ni fydd byth yn edifar gyno chi ei godi o yn flaenor." Profodd ei fod yn graff iawn yn yr amgylchiad hwn; oblegid trodd y gwr hwnw allan yn un o'r blaenoriaid goreu.

Yr oedd John Williams, Llecheiddior, a Moses Jones yn gryn edmygwyr o Robert Dafydd. Cyfeirient ato yn fynych yn eu pregethau, ac yn y seiadau. Credwn mai dylanwad Robert Dafydd oedd llawer o'r gerwindeb a'r plaender oedd yn John Williams. Ac yr oedd Moses Jones, meddir, wedi cymeryd ei ddull o gadw seiat oddiwrtho. Nid yw hyn ond peth hollol naturiol. Dywedir fod dylanwad yr hen bregethwr hwnw, John Jones, Bodynolwyn, ar John Elias, a dylanwad Dafydd Cadwaladr ar Henry Rees. Dywedir mai efelychiad o John Jones, Bodynolwyn, oedd rhyw glec hynod oedd yn llais John Elias. Yr un fath am y codiad hynod a sydyn oedd yn llais Mr. Rees, dywedir mai efelychiad ydoedd o rywbeth tebyg yn llais Dafydd Cadwaladr.

Yr oedd rhywun wedi ein camarwain trwy ddweyd nad oedd Robert Dafydd yn gallu ysgrifenu. Yr oeddym yn teimlo ryw chwilfrydedd i wybod pa un ai gwir ai anwir oedd hyn. Yn ddiweddar cawsom bob sicrwydd ei fod yn gallu ysgrifenu yn dda. Gwelsom ei lawysgrif fwy nag unwaith, yr hon sydd yn llawysgrif gron a phrydferth. Diameu mai yn yr ysgol yn Meddgelert, gyda Robert Jones, Rhoslan, y dysgodd ysgrifenu. Gweler ei lawysgrif yn nechreu y llyfr.

Ni byddai hanes Robert Dafydd yn gyflawn heb roddi hanes ei hen ferlyn Jack, yr hwn oedd mor