Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynod yn myd y ceffylau ag oedd ei hen feistr yn myd dynolryw. Yr oedd wedi ei fagu yn llywaeth, meddir, a thrwy hyny yn llawn awydd am chwareu a brathu. Du oedd ei liw, ond fod rhan helaeth o'i ben yn wyn. Byddai rhyw fath o gymdeithas yn cael ei chynal rhwng y ddau. Llawer asiaradodd Robert Dafydd gyda Jack. Yn gyffredin ar ol pregethu yn nhaith Rhydyclafdy, Pentre ucha, a Phwllheli, cynhaliai seiat ddydd Llun yn Rhydyclafdy 10, Pentre ucha 2, a Phwllheli y nos, a lletyai yn gyffredin yn Mhensarn nos Lun. Byddai arno eisieu cyrhaedd seiat Brynengan erbyn deg neu unarddeg foreu ddydd Mawrth. Ac wrth gychwyn o Bensarn odid fawr nad rhyw awr o amser fyddai ganddo i fyned i Frynengan, a chyfarchai ei hen gydymaith,—"Wel, Jack bach, nid oes gen ti ddim ond awr o amser i fynd adre', tua naw milldir o ffordd." A llawer gwaith y gwnaeth y gorchestwaith hwn. Yr oedd yn dyfod i'r Pennant unwaith i bregethu, gan farchog ei hen ferlyn fel arfer. Digwyddai fod yno ffrwd o ddwfr wrth y ffordd, yn agos i chwarel Hendre ddu, ac aeth Jack ati i yfed o honi. Ac meddai Robert Dafydd wrtho, heb feddwl fod neb yn clywed,—"Ie, ŷf dy ora. Mae hi yn ddigon caled arnat ti; mae cryn bwysau arnat ti. Mae yma ddau beth bynag ar dy gefn di, yr hen ddyn a'r dyn newydd." Er fod Jack yn "geffyl yr hen bregethwr," eto mae yn bur amlwg fod llawer o gastiau yn perthyn iddo. Byddai John Williams, Llecheiddior, fel y cyfeiriwyd, yn hoff iawn o wneyd cyfeiriad at Robert Dafydd yn ei bregethau, &c. Cyfeiriai hefyd at geffyl Robert Dafydd weithiau. "Peidiwch," meddai, "a gadael i ryw bethau bychain eich llyffetheirio gyda chrefydd. Gwnewch yn debyg i hen geffyl Robert Dafydd. Wedi iddo gael ei garcharu â thenyn gwellt, fe orweddai ac fe'i cnoai,