Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna byddai yn rhydd i fyned i unrhyw borfa fras a fyddai yn ddewis. Gwnewch chwithau yn debyg." Yr oedd drwg—deimlad wedi magu rhwng Jack a Betti Marc, yr hen ferch a fyddai yn myned o gwmpas y wlad i gadw seiadau, yr hon oedd yn byw yn nhy capel Brynengan. Yr achos oedd y byddai hi yn rhwystro iddo gael gwair pan fyddai yn ystabl y capel. Penderfynodd yntau y dialai arni am hyn. Yr oedd yn myned trwy y cae lle yr oedd yn pori un diwrnod. Daliodd yntau hi, a rhwystrodd iddi fyned o'r cae am gryn amser, nes daeth rhywun wrth fyned heibio, ac a'i gwaredodd rhagddo. Rhoddodd Robert Dafydd fenthyg Jack unwaith i ferch ieuanc i fyned i ffair Pwllheli, yr hon a gynhelid ar ddydd Gwener. Dranoeth, yr oedd yn cychwyn i'w daith i Glynnog, ac wrth roddi y cyfrwy ar ei gefn gwelai friw arno. Edrychai arno yn ddifrifol a synedig, a dywedodd, "Wel, Jack bach, dyma beth ydy myn'di gario merched; chest ti 'rioed ddolur fel hyn wrth fy nghario i."

Dyma farn yr hen bregethwr craff a ffraeth hwnw, Griffith Solomon, am Robert Dafydd:— "Profiadol fel Cristion, ffyddlon yn ei le a'i alwad, hallt wrth ymdrin a chyflyrau dynion, gan rybuddio pawb yn gyhoedd ac yn ddirgel i beidio a boddloni ar grefydd heb Grist ynddi."