Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Na," meddai yr Arglwydd, gan ddechreu yn Jerusalem. Os ateba yr efengyl y diben yno Petr, ni raid iti ddim ofni ei mentro hi i'r holl fyd wed'yn."

Yr oedd ef a'r blaenoriaid yn amser y diwygiad, yn 1832, yn disgwyl gweled rhywrai oedd ar drothwy yr eglwys, megis, yn troi i mewn; ond yn groes i hyny, y rhai oeddynt hwy yn ddisgwyl leiaf, y rhai hyny oedd yn dyfod. Ac meddai ar ei weddi,—"Diolch iti, O Arglwydd, mae gen ti ddigon o allu i dynu dy etholedigion dy hun i mewn, pan y mae ein hetholedigion ni yn sefyll allan."

Dro arall pregethai ar Jonah iii. 10,—А gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi o honynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth. "Nid oes neb," meddai, "fel ein Duw ni am guddio beiau. Dim ond eu taflu o'r tu ol i'w gefn ef, mae efe mor dal fel na fedr yr un Saul, er ei fod yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na'r holl bobl, weled dros ei ysgwyddau ef. Ac ni fedr Gabriel chwaith, y mwyaf o'r angylion, weled y tu ol i'w gefn ef."

Dadleuai rhywun ag ef unwaith fod cwymp oddiwrth ras. "Ple," meddai, "yr oedd gras Petr pan yr oedd yn gwadu." "O," meddai Robert Dafydd, "oni bai fod gras ynddo, rhegi y buasai eto."

Sylwai un tro mewn seiat,—"Yr oeddwn i yn myn'd heibio boreu heddyw i un o'r ffermydd yma, a mi welwn ddyn yn toi tâs o wair. Gofynais iddo mewn syndod, Wil, i beth yr wyt ti yn toi y dâs a hithau yn dywydd mor braf? 'O!' meddai Wil, fe ddaw hi'n ddrycin.' Ac yn wir, welwch chi, yr hen Wil oedd yn ei le; erbyn y nos dyna hi yn wlaw mawr. Wel, mae yn ddigon priodol i rywun ofyn i minau—I beth mae'n da dyfod i'r