yn Nazareth a Chapernaum? Oni wyddoch ch'i ei fod wedi bod yn ing Gethsemane, ac wedi dioddef poenau y groes ar Galfaria? Ac oni wyddoch ch'i ei fod wedi ei gladdu, ac wedi adgyfodi y trydydd dydd, ac esgyn i'r nefoedd, a'i fod yno yn eiriol trosom?" Aeth trwy yr hanes ryfedd yn lled fanwl, a chyn ei fod wedi gorphen, dywedir ei bod yn orfoledd mawr yn y lle.
Arferai weddïo gweddi fer yn fynych ar ganol pregethu, "Duw anwyl,—achub y bobol, c[i]adw'r bobol."
Ymadrodd a ddefnyddiai yn fynych yn ei bregeth ac yn y seiat oedd,—"Hen gomin llwm iawn ydi comin y cythraul," gan dynu ei fysedd trwy ei wallt mawr.
Dywedai yn fynych wrth bregethu am bobl fyddai yn gwasanaethu'r diafol, nad oedd gan y diafol ei hun ddim gwell lle na gwely o dân."
Yr oedd Morgan Howells yn pregethu gyda hwyl anghyffredin un tro yn Mrynengan. Ar y diwedd, gofynai Robert Dafydd,—"Wel, tybed y bydd hi yn well yn y nefoedd nag oedd hi yma heddyw?"
Yr oedd sôn am Moses Jones cyn iddo ddechreu pregethu, ei fod yn meddwl am hyny, ac meddai Robert Dafydd wrtho un noswaith,—"Tyr'd yma i'r fan yma i dreio dy law, os wyt ti yn meddwl rhywbeth ohonot dy hun."
Dywedai unwaith wrth ofyn bendith ar ei ymborth,—"Diolch i ti, O Arglwydd, am dy drugareddau i ni yn feunyddiol. Nid fel hyn y mae hi yn uffern; na, gwae sydd yno i frecwast, gwae i ginio, a gwae i swper."
Daeth boneti gwynion i'r ffasiwn pan yr oedd ef mewn gwth o oedran, ac yr oedd yn erwin yn eu herbyn. Yr oedd yn cadw seiat yn Rhydyclafdy, ac wrth fyn'd oddiwrth y naill at y llall,