daeth at wraig a bonet gwyn ganddi; ac meddai, —"Wel, beth dd'wedi di y bonet gwyn."
Trowyd merch iddo allan o'r seiat, am briodi un o'r byd, os ydym yn cofio yn iawn. Wedi iddi ddyfod yn ol i'r seiat aeth Robert Dafydd ati i ymddiddan â hi, a chan nad oedd yn gweled digon o arwyddion edifeirwch arni, dywedodd wrthi, "Dos allan, Neli, nes y byddi di wedi edifarhau digon. 'Dwyt ti ddim yn ddigon sâl eto." Ас allan y bu raid iddi fyn'd o gapel Brynengan, gan fyned trwy y drws oedd wedi ei neillduo i hyny, sef y drws agosaf i'r ty capel.
Pan yr oedd y bobl gryn lawer ar wasgar mewn seiat yn Mrynengan, dywedai,—"I ba beth yr ydych chi'n myn'd mor bell oddiwrth eich gilydd? Yr ydach ch'i fel lot o hen fawn gwlybion fel yna, thaniwch chi byth. Dowch dipyn yn nes at eich gilydd, mi gynheswch wed'yn. Os bydd marwor ar wasgar, fe ddiffydd y tân yn union, ond heliwch o at ei gilydd, fe dania ac fe fflamia yn fuan iawn."
Pan fyddai rhywun yn dyfod yn ol i'r seiat wedi bod yno o'r blaen, os byddai y cyfryw yn teimlo ei fod wedi cael cam, dywedai Robert Dafydd wrtho, dan grafu ei ben,—"Yn is na hyna mae'r glicied."
Yr oedd amryw wedi priodi yn amser y Diwygiad (1831—2) yn ardal Brynengan. Nid oedd hyn yn hollol wrth fôdd Robert Dafydd. Ac mewn seiat, dywedai,—"Ni wel'is i ddim diwygiad erioed yr un fath a hwn. Mae y bobol yn priodi yn nghanol poethder y diwygiad." Cydiodd Daniel, ei fab, yn nghynffon ei goat, a rhoddodd blwc arni. Yr oedd efe newydd briodi ei hun, ac yr oedd arno ofn i'r hen wr ddweyd rhywbeth annheilwng ohono ei hun. Cofier fod gwendidau henaint wedi ymdaenu drosto y pryd hwn.