Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

frawd hynod o Borthmadog—Hugh Owen, 'Rhen dy, wrth ei enw yn dweyd am y bregeth hon, "Mi bregethodd John Elias y pryd hwnw yn Sasiwn Pwllheli nes yr oedd sir Gaernarfon yn crynu drwyddi, a dydi hi byth wedi dyfod ati ei hun." Yr wythnos ddilynol yr oedd John Elias yn pregethu yn Mrynengan; a dywedir fod nifer mawr, o Bwllheli a'r amgylchoedd wedi dyfod ar feirch ac mewn cerbydau i wrando arno, er fod y pellder oddeutu naw milldir o ffordd. Ymledodd y dylanwad yn fuan i Leyn. Cerddodd oddiyno i Eifionydd. Ac ar ddydd Jubili yr Ysgol Sabbothol, yr hwn oedd hefyd yn ddydd diolchgarwch, yn nghapel Bontfechan, ger Llanystumdwy, Hydref 14, torodd allan yn ddiwygiad grymusiawn. Teimlwyd yr un dylanwad nerthol yn Mrynengan, braidd yn yr un dyddiau, trwy bregeth y Parch. Henry Rees. Yn fuan yr oedd cyfarfod gweddi mewn ty o'r enw Pensarn uchaf. Hen wraig wresog o'r enw Mari Rhisiart, Pensarn, a geneth fechan, gwan hen a gwan ieuanc, a fethasant beidio tori allan i lefain yn y cyfarfod hwn. Gyda llaw, dyma'r hen wraig a ymgripiodd wrth ei dwy ffon, tua dau led cae, i gyfarfod Morgan Howells, wedi iddo fod yn pregethu yn Mrynengan, ac yn casglu at ei gapel yn Casnewydd. "Dyma i chi swllt," meddai, "at ddwyn yr arch i'w bro ei hun." Gwnaeth stori yr hen wraig lawer at chwyddo casgliad Morgan Howells. Yr oedd y teimlad yn dwyshau o hyd hyd ddechreu Ionawr, 1832. Yr oeddis wedi cyhoeddi Thomas Owen, Llangefni, i fod yn pregethu yno un Sabboth, Ionawr 8, 1832; ond gwnaed camgymeriad gan rywun, ac ymhen yr wythnos y daeth efe i'w gyhoeddiad, ac mewn cyfarfod gweddi a gynhelid yn lle yr odfa hon torodd allan yn orfoledd anghyffredin iawn. Yr oedd y diweddar William Hughes, Bangor, a John