Roberts, Ynysdyfnallt, ger Bryncir, yn methu ymatal heb lefain yn nghourt y capel, ac ar eu ffordd adref. Yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd John Peter, y Bala, yn pregethu yno, ar y gair hwnw,—"Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau." A'r fath oedd y dychryn a'r arswyd oedd wedi dal pawb oedd yn y lle fel y torodd allan yn un waedd gyffredinol, fel na chafodd y pregethwr lefaru ond am ychydig fynudau. Aeth y diwygiad rhagddo drwy y gauaf a'r gwanwyn dilynol gyda nerth mawr, ac ymledodd trwy holl eglwysi Eifionydd. Yr oedd yn boeth iawn yn ardal Bwlchderwin. Clywsom Mr. William Griffith, Terfynau, Bwlchderwin, yn dweyd ei fod yn gwrando ar John Jones, Tremadog, yn pregethu yn Mwlchderwin, yn nghanol poethder y diwygiad. Ac y mae yr olygfa a welodd yn nrws y capel, wrth ddyfod allan, yn fyw yn ei feddwl hyd y dydd hwn—pedwar bachgen pen-goch, pen-noeth, yn gorfoleddu ac yn neidio yn nghourt y capel. Gallem feddwl mai Mri. R. Griffith, Nebo, M. Prichard, Llandudno, a'r "bachgen pengoch" oedd yn flaenffrwyth "Diwygiad Brynengan" oedd tri o'r pedwar. Bu awyrgylch yr ardal yn adsain gan sain cân a moliant am wythnosau lawer. Gellid clywed oddiar fynydd y Cenin gerllaw, liaws bob nôs am wythnosau mewn ymdrech â Duw yn y meusydd islaw. A byddai sŵn y naill yn cyraedd y llall; a'r diwedd fyddai cynal cyfarfod gweddi gyda'u gilydd. Ac wedi i'r gwahanol bentewynion ddyfod at eu gilydd, y canlyniad fyddai fod yno dân gwresog, yn cyneu ac yn fflamio am oriau lawer. Yr oedd Mawrth yr 21, wedi ei benodi yn ddydd o ympryd ac o ymostyngiad o achos y colera, a chyfarfodydd gweddi yn cael eu cynal yn holl gapelau y wlad. "A'r fath oedd yr arswyd," meddai y diweddar Barch. Robert Ellis, Ysgoldy,
Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/84
Gwedd