Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feddianai bawb, fel y caed pob llan a chapel yn llawn am y diwrnod hwnw bid a fo. Bu ymweliad y pregethwr arswydus hwn yn foddion i brysuro yr adfywiad crefyddol, yr hwn oedd eisoes wedi dechreu ymdaenu tua Lleyn ac Eifionydd, trwy ddifrifoli meddyliau dynion, a'u deffroi i ystyriaeth o'u perthynas â byd arall." Gelwid y diwygiad hwn, er mwyn ei wahaniaethu oddiwrth ddiwygiadau ereill, yn "Ddiwygiad Brynengan." Gelwid ef felly, mae yn debyg, oblegid iddo gael gafael ddyfnach yn yr ardal hon nag mewn un ardal arall.

Cynyrchodd y diwygiad hwn rai duwiolion digyffelyb ymron. Cyrhaeddodd ambell un ohonynt yr hafan ddymunol yn fuan, ac yn eu llawn hwyliau. Cafodd eraill ohonynt wyntoedd croesion, ond y maent er's llawer blwyddyn wedi dianc allan o gyraedd yr ystormydd a'r tonau i gyd am byth. Gwelodd yr ysgrifenydd nifer ohonynt; a chlywodd am eraill nas gwelodd â'i lygaid. Clywodd am rai gwragedd nodedig iawn. Ymysg y lliaws "gwragedd sanctaidd" ag yr oedd hynodrwydd mawr ynddynt yn y diwygiad hwn, yr oedd un yn arbenig felly, sef Miss Margaret Jones, Mynachdy—gwyn, yr hon oedd yn fodryb chwaer eu mam i Mr. Owen Jones, Talsarn, a'r diweddar Mr. W. Ll. Jones, Henllan. Llawer a glywsom yr hen bobl yn sôn am "Margiad Mynachdy,"—oblegid dyna fel y galwent hi,—a'u gwynebau yn lloni, a'u llygaid yn llenwi. Yr ydym yn gofidio erbyn hyn na buasem wedi cofnodi pob gair a ddywedasant am dani. Mynych y gwelwyd hi yn nhy Dduw fel Hannah, yn ymddangos fel meddw, wedi yfed o'r gwin o seler Duw; ac fel hithau, ei chalon yn llawenychu yn yr Arglwydd, ei chorn wedi ei ddyrchafu, ei genau wedi ei eangu, ac yn llawenychu yn iachawdwriaeth Duw. Prin yr oedd yn un ar bymtheg oed pan yr oedd y diwygiad yn ei boethder mwyaf, ac eto yr