Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn hynotach na braidd neb yn y lle. Yr oedd Thomas Owen, Llangefni, yn pregethu yma un Sabboth yn yr adeg hon, ar "Beth a dybygwch chwi am Grist?" A rhwng gwres ysbryd yr hen bregethwr tanbaid a gwres y dychweledigion, yr oedd awyrgylch grefyddol y lle wedi cyraedd graddau uchel iawn. Wedi galw seiat ar ol daeth yr hen bregethwr o'r pwlpud i ganol y llawr, yn ol yr arfer y pryd hwnw; a'r peth cyntaf a ddywedodd mewn llais uchel oedd, "Beth dybygwch chwi am Grist"? gan roddi pwyslais ar y gair "chwi." Ar y gair gwaeddodd y ferch ieuanc uchod gyda llais tyner ac effeithiol, gan gofleidio y pregethwr, "Mai priod fy enaid ydyw." A chyda'r gair dyma'r trydan nefol yn cyffwrdd â phawb oedd yn y lle, fel nad oedd yno neb heb deimlo y dylanwad. Aeth rhai i wylo, eraill i orfoleddu, ac eraill i ganu

"Ffarwel bellach bob eilunod,
Iesu mhriod aeth a mryd."

Meddai yr hen flaenor hynod Mr. Richard Griffith, Nebo, Llanllyfni, am dani: "Yr oedd yn ddiarhebol mewn duwioldeb. Gorfoleddodd lawer; a byddai rhyw ddylanwad trydanol yn ei llais. Pan fyddai eraill yn gwaeddi Sinai, Calfaria fyddai ei chân a'i hateb hi. Clywais hi yn gwaeddi allan unwaith, Os collais y ddelw yn Eden, mae y gwaith a wnaed ar Galfaria yn abl i'w rhoi yn ol er hyny." Er yn eneth ieuanc, o un ar bymtheg i ddeunaw oed, cadwai ddyledswydd deuluaidd foreu a hwyr mewn teulu lliosog nad oedd neb yn proffesu crefydd ynddo. Fel llawer eraill mewn adeg o ddiwygiadau grymus, derbyniodd gymaint o'r dylanwadau dwyfol ar ei hysbryd nes ysigo ei chorph. Gwywodd i'r bedd yn ieuanc, a bu farw yn 30 oed, yn y flwyddyn 1846.

Mor hoff oedd Robert Dafydd o'r seiat hyd yn nod yn ei flynyddoedd a'i fisoedd olaf fel, os na allai