llyfr y Datguddiad, a Rhisiart William yn gwrando mewn syndod ac edmygedd. Yr oedd John Jones, Tremadog, yn dipyn o feistr Rhisiart William, fel yn wir ar liaws eraill o bregethwyr sir Gaernarfon. Pan fyddai Rhisiart William yn myned ar daith i'r Deheudir, gofalai am beidio rhoddi ei "hancas wen" i fyny un amser cyn myned trwy Dremadog. Ac yr oedd yr un mor ofalus wrth ddychwelyd am ei thynu cyn cyraedd y lle hwnw. Bu ar daith unwaith yn y Deheudir gyda John Williams, Llecheiddior. A gofynodd John Jones, Tremadog, iddo pa fath daith a gawsant. "Wel," meddai yntau, "John oedd yn myn'd a hi yn sir Aberteifi; ond wedi myn'd i sir Benfro y fi oedd yn myn'd a hi o ddigon. A gwyddoch ch'i, John Jones, o'r gora mai swn sydd ar bobl sir Aberteifi eisio gael, ac mai sylwedd sydd ar bobl sir Benfro eisio. Mae John yn well am waeddi na mi; ond pan a i i waeddi, mae hi yn myn'd yn ryw wich gin i." Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Mwlchderwin unwaith, a'r "degwm" yn lled brin yno. Gofynodd yr hen flaenor, Robert Prisiart iddo—"Gym'ri di ddim naw ceiniog am dro, Rhisiart? mae yr arian wedi myn'd yn brin iawn yma." "Na wna i wir," meddai Rhisiart William, "yr ydw i yn cael swllt ymhob man."
Mae yn amlwg fod llawer o wit yn natur Rhisiart William. Cwynai John Jones, Tremadog, mewn Cyfarfod Misol unwaith, fod y pregethwyr ieuainc yn myn'd yn ryw fân iawn, ac yn debyg iawn i'w gilydd. "Yr ydw i yn eich gwel'd ch'i," meddai, "yn debyg iawn fel y bydd y ffarmwr weithiau wrth edrych dros ei wartheg, yn eu gwel'd nhw yn fân iawn." "Ie," meddai Rhisiart William, "ond rhaid i ch'i gofio John, mai gwartheg blwyddiaid yda ni rwan, fe ddown ni yn ddwyflwydd toc."