Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd rhywbeth yn dra chartrefol a buddiol yn ei weinidogaeth. Dywedai un hen or pur hynod am dano,—"Dywedwch ch'i a fynoch ch'i am y collegians yma, mae yn well i'r werinosyn druan gael Dic William."

Dyma yr offeryn wedi'r cwbl a ddefnyddiwyd gan yr Arglwydd i gychwyn diwygiad penaf Cymru. Ac y mae yn amheus a fu pregeth erioed yn Nghymru fwy grymus na phregeth Rhisiart William yn Hafod-y-llan, y nos Sabboth bythgofiadwy hwnw, yn Awst, 1817. Ei destyn oedd Ioan v. 44: "A'r hwn a ddel ataf fi nis bwriaf ef allan ddim." Mae gofod yn prinhau, neu buasai yn dda genym ddyfynu darluniad effeithiol y diweddar Barch. Robert Ellis, Ysgoldy, ohoni. Cafodd bregeth arall hynod iawn yn fuan ar ol hyny mewn cwr arall o blwyf Beddgelert, sef yn y Tylyrni, Nantmor. Ei destyn y tro hwn oedd Matthew xxv. 10: "A'r rhai oedd barod, a aethant i mewn gyd ag ef i'r briodas: a chauwyd y drws." Yr oedd rhyw nerthoedd rhyfedd yn canlyn y bregeth yma hefyd, fel yr oedd y dynion cryfaf yn methu ymatal heb waeddi allan. Bu Rhisiart William farw yn nghanol ei ddyddiau, Chwefror 4ydd, 1834, yn 54 oed.

Sian Griffith a fu yn briod gyda Robert, mab Robert Dafydd. Yr oedd hithau yn un hynod ar lawer cyfrif. Yr oedd yn nodedig mewn hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau. Bu yn gwasanaethu am lawer o flynyddoedd gyda'r Parch. John Jones, Tremadog; a dywedir mai hi oedd ei Concordance ef. Bu yn cadw ty capel Brynengan am amser maith; a byddai llawer o bregethwyr yn cymeryd mantais ar ei chydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau i gael adnodau ar faterion eu pregethau. Llawer gwaith y gwnaeth Michael Roberts hyn. Bu hefyd yn cadw ysgol yn y capel. Dosbarthodd lawer o