Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyhoeddiadau misol, a llyfrau eraill yn yr ardal. Prin yr oedd yn bosibl ei throi draw yn hyn. Yr oedd ganddi graffder mawr i adnabod duwioldeb. Dywedai am y diweddar Barch. Robert Roberts, Morfa Nefyn, pan yn fachgen ieuanc, yn dechreu pregethu :—"Dyna fachgen ieuanc wedi ei oreuro a santeilddrwydd." Yn lle wylo ar ol ei gŵr pan y bu farw, yr oedd hi yn canu wrth feddwl am y cyflwr dedwydd yr oedd efe ynddo. Bu farw Medi, 1866, yn 75 oed; a chladdwyd hi yn mynwent Capel Salem, Llanllyfni; ac y mae careg dda wedi ei gosod ar ei bedd.

Mab i Rhisiart William, ac ŵyr i Robert Dafydd, oedd y diweddar Mr. Robert Williams, Runcorn, yr hwn oedd yn bregethwr ieuanc poblogaidd ac addawoliawn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1806. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1825, os nad cyn hyny. Yr oedd llawer o debygrwydd yn ei ddawn i ddawn y diweddar Barch. John Jones, Talysarn. A chafodd rai odfeuon grymus iawn. Sonir am bregeth neillduol o'i eiddo ar y farn a'r adgyfodiad. Desgrifiai y corph a'r enaid yn cyfarfod a'u gilydd yn yr adgyfodiad, gyda dylanwad mawr. Bu yn cadw ysgol am dymor yn y capel. Tua 1829—30 symudodd i Runcorn i gadw ysgol. Daeth i sylw mawr yno fel pregethwr. Ac yn niwedd y flwyddyn 1830 cafodd wahoddiad taer, unfrydol, a chynes, oddiwrth eglwysi y Methodistiaid yn America i fyned yno i'w gwasanaethu. Addawent ei gynal yn anrhydeddus os ai yno. Dyddiad y llythyr ydyw Hydref 6ed, 1830; ac ymddangosodd yn y Drysorfa am 1832. Cawn ymadroddion fel hyn yn y llythyr : —" Yr ydym fel un corph, o un llef ac un galon, yn anfon atoch y cais hwn, A ddeuwch chwi yma i lafurio yn ein mysg yn y weinidogaeth, a phethau perthynol i dŷ yr Arglwydd? . . . . Gobeithio yr ydym y bydd