Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Arglwydd yn tueddu eich meddwl i ddyfod yma atom, ac y cewch gychwyn yn anrhydeddus, y cynhelir eich cerddediad, ac y cewch ddyfodfa i'n plith, gyda chyflawnder bendith efengyl Crist. . . .Yr ydym ni gyda ein gilydd wedi penderfynu cyn dechreu ysgrifenu atoch, y gwnawn ein goreu tuagat eich cadw yn gysurus yn ein plith, pa hyd bynag y byddo hyny. Ac os byddwch mewn amser i ddyfod yn awyddu am ddychwelyd i Gymru yn ol, yr ydym yn ymrwymo i rwyddhau y ffordd tuag at hyny ymhob ystyriaeth, gan ddwyn eich traul, fel y bo yr angen yn gofyn." Beth bynag oedd yr achos ni chydsyniodd â'r alwad. Yn y Drysorfa am 1832, cawn lythyr oddiwrtho dyddiedig Tachwedd 2il, 1831, yn hysbysu ei fod yn bwriadu dwyn allan lyfr ar Law—fer. Mae yn bur amlwg ei fod wedi llafurio llawer yn y cyfeiriad hwn; oblegid y mae yn enwi nifer mawr o awdwyr Seisnig yr oedd wedi ymgynghori a hwy. Ond ni chafodd ddigon o gefnogaeth i beri iddo gyhoeddi y llyfr; ac felly aeth ei lafur a'i anturiaerh yn ofer. Tua'r flwyddyn 1835 priododd; a darfu iddo ryw ymddyrysu wrth wneyd hyny, er na ddarfu iddo wneyd dim gwaradwyddus. Yn y Gwladgarwr am 1839, cawn y nodiad canlynol am ei farwolaeth:—"Bu farw, Gorphenaf 26ain, yn Runcorn, ar ol maith gystudd, Mr. Robert Williams, gynt o Frynengan, swydd Gaernarfon, yn 33 oed."

Wyr arall i Robert Dafydd, mab ei ferch oedd Daniel Roberts, y Ffridd, Brynengan. Yr ydym yn cofio yn dda ei weled yn myned yn mlaen i gael ei wobr mewn Cyfarfod Llenyddol yn Nhremadog, yn fachgen ieuanc 19 oed. Yr oedd yn gyfartal oreu gyda gwr o allu mawr, ac addfedrwydd oedran, sef Mr. Rees Roberts, Harlech. Ac yr oedd gwyr cedyrn eraill wedi ymgeisio, megis, Bardd Treflys, &c. Yr oedd hyn ar gychwyniad y Cyfarfodydd