Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llenyddol, pan yr oedd y cyfarfodydd hyny yn eu bri mwyaf; ac yr oedd o 16 i 18 wedi cystadlu ar y testyn hwnw. Bu yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau ar ol hyny. Aeth i Goleg Hyfforddiadol Caernarfon i barotoi ei hun i fod yn ysgolfeistr. Ond pan yr oedd wedi gorphen parotoi, ac wedi cytuno i fyned i gadw ysgol i'r Bontnewydd, ger Caernarfon, gwywodd, a bu farw, Ebrill 26ain, 1859, yn 24 oed.

Wyr arall i Robert Dafydd, mab i ferch arall iddo, oedd y diweddar Robert Jones, Pen Scoits, ger Nanhoron, Lleyn, yr hwn oedd wr hyddysg yn yr Ysgrythyrau, yn dduwinydd rhagorol, a pharod ei ateb yn y Cyfarfodydd Ysgolion, &c.

Yr oedd y diweddar Mr. John Hugh Jones, Brynrhos, ger Bryn'rodyn, yn fab i ferch Mr. Robert Williams, Runcorn, ac felly yn disgyn oddiwrth Robert Dafydd yn y bedwaredd genhedlaeth. Yr oedd efe yn bregethwr ieuanc o gymeriad nodedig o bur a gloew. Llafuriodd yn galed i gyraedd dysgeidiaeth, yn rhy galed i gyfateb i'w gyfansoddiad gwanaidd. Yroedd yn nodedig ar gyfrif ei gydnabyddiaeth eang a manwl â'r Ysgrythyrau. Pe cawsai oes, diau y daethai yn bregethwr cymeradwyiawn. Bu farw Ebrill 22ain, 1883, yn 26 oed.

Mae hyn yn dangos fod yr addewid hono wedi ei chyflawni i'r hen batriarch Robert Dafydd :"Plant dy weision a barhant, a'i had a sicrheir ger dy fron di."

DIWEDD.