Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oedd,-"Deuwch a gwelwch Lanark Newydd." Ond nid oedd hyn yn rhith o ddadl dros y cynllun, cymaint ydoedd y gwahaniaeth rhwng y cynllun a'r ymarfer yn Lanark Newydd. Geilw pwyllgor Leeds sylw at hyn yn eu hadroddiad yn 1819. Yn ol cynllun newydd Owen, yr oedd y sefydliad i fod yn amaethyddol; ond gweithfaol ydoedd Lanark Newydd. Am hynny yr oedd y cynllun yn darparu 1,000 o erwau o dir ar gyfer 1,200 o bersonau; tra cyrhaeddai poblogaeth Lanark Newydd 2,500, heb nemawr dir. Yr oedd y cynllun yn ordeinio fod popeth yn eiddo cyffredin; ond yn New Lanark defnyddiai y trigolion eu henillion fel y gwelent hwy oreu. Yr oedd y pentref newydd i fod yn bedair onglog; eithr adeiladwyd Lanark Newydd mewn rhesi a heolydd. Yn ol y cynllun, yr oedd plant chwe blwydd oed i ddechreu gweithio awr yn y dydd yn yr awyr agored, ac un awr ychwanegol at hynny hyd nes y cyrhaeddent ddeuddeg mlwydd; ond yn New Lanark nid oedd y plant yn gweithio o gwbl hyd nes y byddent yn ddeng mlwydd oed.

Yr oedd gwahaniaeth yn bod mewn amryw o fân bethau eraill. Yr oedd hyn