Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

yn angenrheidiol oherwydd fod gwahaniaeth yn natur y ddau sefydliad. Yr oedd yn rhan hanfodol o gyfundrefn Owen mai ar y tir yr oedd y sefydliadau hyn i gael eu cychwyn. Pe dadleuid felly nad oedd llwyddiant New Lanark yn brawf y bydd- ai ei gynllun yn llwyddiant, atebai, "Os ydyw Lanark Newydd yn cynhyrchu'r fath gymeriadau da, gymaint yn well fydd cymeriadau a ffurfir dan amgylchiadau gwell." Ond nid ydoedd yn cofio fod holl gyfansoddiad a rheoleiddiad ei bentrefi cydweithredol yn hanfodol wahanol i'r hyn ffynnai yn Lanark Newydd; ac yn ychwanegol at hyn, nid oedd yn deall gymaint elfen yn llwyddiant Lanark Newydd ydoedd ei bersonoliaeth gref ei hun.

Serch aflwyddiant pob sefydliad a seiliwyd ar ei gynllun, daliai yn dynn yn ei gred ynddo; a'r cwbl ofynnai i beri llwyddiant mawr ydoedd amgylchedd ffafriol. Yn 1824 barnodd fod y cyfleustra wedi dod iddo ddangos i'r byd ymarferoldeb ei gynllun. Yn y flwyddyn honno daeth i gyfarfyddiad ag un Richard Flower, yr hwn oedd wr o foddion, ac amaethwr o brofiad. Bu ef ar ymweliad a'r America, a derbyniodd gennad,