Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

tra yno, gan sefydliad o ddilynwyr Rapp, i geisio gwerthu'r tir oedd yn eiddo iddynt ar lannau yr afon Wabash yn nhalaeth Indiana.

Yn nechreu y bedwaredd ganrif ar bym- theg, cododd offeiriad o'r enw Rapp i fri mawr yn Wurtemberg, a thrwy ei bre- gethu daeth iddo liaws o ddilynwyr, ond oherwydd yr erlid o hono gan yr ang- hrediniol, ymfudodd-efe a'i ddilynwyr- i'r Unol Dalaethau yn 1804, ac ymsefydl- asant mewn cymdeithas ar linellau y Brif Eglwys yn ol yr hanes yn Llyfr yr Actau. Yr oedd popeth i fod yn eiddo cyffredin iddynt oll. Ymbabellasant yn gyntaf ar lannau'r afon Coneguesnig yn nhalaeth Pennsylvania. Yn 1809, penderfynasant fyw mewn annyweddiaeth (celibacy) mewn ufudd-dod i anogaeth yr Apostol Paul. O Bennsylvania symudasent i Indiana, ac yno ar lan yr afon Wabash codasant dref- lan. Rhifent oddeutu mil. Yr oedd tir ffrwythlawn, gwastad, a hawdd ei drin, yn gorwedd oddiamgylch iddynt. Draw i'r gorllewin yr oedd rhes o fryniau ar ffurf hanner cylch, yn gorwedd hanner mill- tir o'r pentref-yn llinell derfyn ar y naill ochr; ac ar y llall yr oedd yr afon. Ar