Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

lannau hon adeiladwyd melinau, a rhodd- wyd dwfr yr afon dan dreth iddynt. Yn y gymydogaeth yr oedd chwarel carreg nadd. Codwyd tai annedd, neuadd fawr i ddybenion tymhorol y lle, eglwys, melin ager, a gweithdy gwlan.

Yn ariannol yr oedd sefydliad y Rapp- iaid wedi bod yn llwyddiant mawr. Yr oedd eu cyfoeth yn 1804 tua phum doler ar hugain y pen. Erbyn 1825, yr oedd ganddynt ddwy fil o ddoleri'r un; neu gy- maint ddengwaith a chyfartaledd cyfoeth yr holl Dalaethau ar gyfer pob dinesydd. Eithr yn feddyliol a chymdeithasol ni bu cymaint llewyrch ar eu sefydliadau.

Tua 1824 y maent eto yn dechreu af- lonyddu. Nid oedd iddynt gymydogion wrth eu bodd; a blinid hwy yn ddirfawr gan anhwylder sydd gyffredin mewn gwledydd corsiog, sef y malaria. Pender- fynasant adael y lle, a symud i wlad fwy dymunol. Rhoddwyd ar Flower i chwilio am brynwr, ac addawyd iddo bum mil o ddoleri am ei drafferth, os llwyddai. Clywodd Flower am Robert Owen, ac aeth ato i gynnyg y lle iddo. Swynwyd Owen gan y syniad. Dyma le wrth ei law, yr adeiladau eisoes yn barod, y tir mewn