Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyflwr da, dyma o'r diwedd gyfle diguro i ddangos i'r byd werth ei gynllun. Cytunodd i brynu'r lle; ac er fod hynny'n aberth mawr, derbyniodd y Rappiaid ei gynnyg i'w brynu am gan mil a hanner o ddoleri.

Dyma engraifft darawiadol o fyrbwylltra Owen. Cynllun ydoedd yr eiddo ef i gyfarfod ag angenion newydd Prydain. Ond wele, yn ddisymwth, y mae yn penderfynu symud i wlad yr oedd ei holl amgylchiadau yn wahanol i rai ei wlad ei hun. Ni byddai llwyddiant y cynllun yn America yn brawf y byddai'n llwyddiant yn Lloegr, gan mor wahanol ydoedd anghenion y ddwy wlad. Y mae Owen yn syrthio i mewn a'r syniad newydd ar unwaith, ac ni bu hir amser cyn iddo groesi'r Werydd i gymeryd meddiant o'i bwrcas newydd.

Cyrhaeddodd y byd newydd ddechreu 1825, ac aeth rhag llaw i Washington. Yno cafodd ganiatad i annerch cyfarfod yn y Senedd—dy. Y mae yr argraff yn bod ymhlith bywgraffwyr Owen mai ar wahoddiad yr aelodau y traddododd anerchiad yn y cyfarfod hwn. Nid ydym yn gallu cadarnhau hynny. Y cyfan wyddom