ydyw fod Arlywydd y Talaethau, yr arlywydd etholedig, ac aelodau y Senedd yn bresennol yn y cyfarfod.
Yr hen faich oedd ganddo yn yr anerchiad hwn, sef yr angenrheidrwydd am adrefniad cymdeithasol o'r sylfaen i fyny. "Yr ydych chwi, Americaniaid," meddai, yn honni eich bod yn feddiannol ar ragorfreintiau mwy na'r eiddo unrhyw wlad, ac i'ch honiad y mae sail da. Eto chwi goleddwch rai syniadau disynwyr, megis rhoddi dyn i farwolaeth am weithredu fel y gorfuwyd iddo wneyd, a gwobrwyo gweithredoedd na feddant haeddiant o gwbl." Condemniai y gyfundrefn fasnachol, gan honni mai un o dwyll ydoedd ; ac ychwanegai,—" Y mae yr arferiad o brynu'n rhad a gwerthu'n ddrud yn diraddio ac yn dinistrio." Arweiniai hyn ef i gynnyg ei feddyginiaeth neilltuol ei hun iddynt. Fel y digwyddai'n gyffredin, swynwyd ei wrandawyr gymaint, fel ag iddynt erfyn arno i draddodi ail anerchiad; ac yn yr ail gyfarfod y mae yn cyhoeddi ei gynlluniau mewn perthynas i Harmony Newydd.
Yn ystod y gwanwyn, cwblhawyd y pryniad; a chymerodd Owen feddiant o