Yn fuan bu raid i Owen ddychwelyd i Loegr. Yn ei absenoldeb, aeth y mân orchwylion rhagddynt yn llwyddiannus. Mewn sebon a glud yn unig yr oedd y cynyrchiad yn fwy na'r defnydd. Yr oedd yno fferyllydd yn darparu meddyginiaeth rad i bawb, a chyflenwid anghenion y trigolion o'r ystordy cyffredin.
Yr oedd yn y pentref 130 o blant. Ar eu cyfer hwy, a'r holl drigolion, yr oedd pob math o ddifyrrwch. Yr oedd yno seindorf yn perthyn i'r lle. Bob dydd Mawrth cynhelid dawnsfeydd, a chyngherdd bob dydd Iau. Ond ar gyfer crefydd, nid oedd unrhyw ddarpariaeth. Ffurfiwyd pum cwmni o filwyr,[1] ac arferai y rheiny arddangos eu campiau unwaith bob wythnos.
Dywed Macdonald i absenoldeb Owen am gymaint o amser ar ddechreu y sefydliad effeithio arno yn dra niweidiol. Ar y llaw arall fe ddywed Sargant fod pethau wedi bod yn llewyrchus iawn yn y cyfamser, a chafodd Owen yr hyfrydwch, ar ei ddychweliad yn Ionawr, 1826, o weled Harmony mewn cyflwr teilwng o'i enw.
- ↑ Infantry, artillery, riflemen, fusiliers, veterans.