Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Am y naw mis cyntaf o hanes y sefydliad bu cryn lwyddiant.
Daeth y cyfnod rhagbaratoawl i derfyn disymwth. Yn fuan wedi i Owen ddychwelyd, cynhaliwyd cyfarfod, a'r canlyniad fu penderfynu rhoddi cymuniaeth (communism) ar droed.[1] Yr oedd hyn yn cymeryd lle cyn bod y sefydliad yn flwydd oed. Yr oedd rhai o'r trigolion yn gwrthwynebu hyn, ac ymneillduasant o Harmony Newydd, gan ffurfio math o is-gymdeithas rhyw ddwy filldir o'r lle. Galwyd enw'r gymdeithas yn Macluria—oddiwrth enw Maclure, ei harwr.[2]
Bellach yr oedd llywodraeth Harmony i fod yn nwylaw pwyllgor gweithiol, yn cynnwys chwech o aelodau, ac yn ddarostyngedig i farn yr holl gymdeithas.
- ↑ Dywed J. D. Rogers (Dict. Pol. Econ.) na chymerodd Owen ran yn y symudiad hwn. Ar ba sail, ni wyddom.
- ↑ Dywed Rogers fod mwy nag un gymdeithas o'r un natur wedi eu sefydlu y pryd hwn. Rhoddai Owen i'r cymdeithasau hyn brydlesi meithion, a rhoddai fenthyg arian iddynt yn ol 4 y cant i godi adeiladau angenrheidiol. Defnyddid yr elw i glirio'r ddyled. Yr oedd Sefydliad Maclure yn cael ei gychwyn gan arian Maclure ei hun, yr hwn arfaethasai yn bennaf peth godi ysgolion ynddo ar gynllun Pestalozzi.