Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fod nifer yn y lle yn anfoddlawn ar ddull Owen o lywodraethu. Dechreuodd yntau wneyd bargeinion celyd a'r sefydliadau anibynnol, er mwyn, mae'n debyg, adenill peth o'r arian a gollasai.

Un o drigolion cyntaf Harmony New- ydd oedd Miss Frances Wright. Ceisiodd. hi sefydlu treflan, y byddai'r dyn du a'r dyn gwyn ynddi ar delerau cydradd; a byddai'r sefydliad o briodas wedi ei ddi- fodi ynddi. Yng Ngorffennaf, 1826, rhoddwyd yr un egwyddor i lawr yn Har- mony Newydd. Ar y pedwerydd o'r mis hwnnw, pen blwydd anibyniaeth y Tal- aethau, cyhoeddodd Robert Owen "Ani- byniaeth Meddwl" (Mental Independ- ence). Yr oedd Owen yn rhoddi pwys mawr ar y ffaith ei fod yn gwneyd hyn hanner can mlynedd i'r dydd y cyhoedd- wyd anibyniaeth gwleidyddol y wlad. "Yr wyf yn dweyd wrthych," meddai yn y cyfarfod ac wrth y byd, "fod dyn, hyd yr awrhon, ymhob rhan o'r ddaear, wedi bod yn gaeth i drindod o'r drygau mwyaf fu erioed mewn cynghrair i ddrygu dynol- iaeth yn feddyliol a chnawdol. Cyfeirio yr wyf at eiddo personol, a chrefydd af- resymol, a chyfundrefn briodasol ddisyn-