Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

boards lliwiedig ar bob tu; ac mewn un rhan o'r dref yr oedd puppet show a war works mewn bri mawr.

Erbyn Mehefin, 1827, gwelodd Owen mai oferedd ydoedd ceisio gwneyd ych- waneg o ymdrech gyda'r sefydliad. Yn y Gazette ar y 18fed o Fehefin y mae yn gwa- hodd y trigolion i gyfarfod y bwriadai ynddo ganu'n iach iddynt. Nid oes ad- roddiad o'r cyfarfod hwn ar gael. Ym- adawodd bron yr oll o'r trigolion a gwas- garwyd hwynt. Dychwelodd y gweddill i fyw dan yr hen drefn, a bu raid i Mac- lure ac Owen osod a gwerthu tir a thai yn ol yr hen ddull. Ac felly y daeth ymgais fawr Owen i roddi cymuniaeth ar waith i ben.

Beth ydoedd achos yr aflwyddiant? Y mae llawer o wahaniaeth barn yn bod parthed hyn. Barn Noyes ydoedd mai ar y gwirodydd yr oedd y bai. Tystia gwr o'r enw Samson mai gwalch o'r enw Taylor ydoedd yr achos, oherwydd iddo dwyllo Owen mewn amryw ffyrdd, a chodi distyll- fa yn agos i'r sefydliad. Y mae yn ddi- ddadl fod llawer o wirionedd yn hyn, a bod gan ddylanwadau dinistriol chwisgi lawer i'w wneyd a'r ymraniadau gymerasant le. Tybiai eraill mai gwendid y lle ydoedd na