Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.

PEN congl-faen dysgeidiaeth Robert Owen ydoedd y syniad mai cynnyrch ei amgylchiadau ydoedd cymeriad dyn. Ni raid myned ymhellach i maes na bywyd Robert Owen ei hun i ganfod mai hanner y gwir yn unig a gynhwysir yn y gosodiad hwn. Ped fae bywyd Robert Owen wedi ei ordeinio yn hollol ac yn gyfangwbl gan ei amgylchiadau materol a thymhorol, ni byddai son am dano heddyw. Buasai yn hynod ymhlith masnachwyr ei oes, y mae'n wir, ond masnachwr fyddai serch hynny. Eithr fe gafodd Robert Owen galon i gydymdeimlo a thrueni a chashau gormes; fe roddwyd iddo allu cryf i ymgodymu âg anhawsterau dyrys bywyd cymdeithasol a masnachol ei ddydd; cynnysgaeddwyd ef â llygad i weled ymhellach nag odid un o'i gyfoedion, a ffydd i gredu y byddai'r Gwir yn drech na phob Anwiredd yn y man. Yn yr herwydd, fe gollwyd y masnachwr yn y dyngarwr a'r diwygiwr. Anghofiasid y masnachwr ers talm o ddyddiau; eithr y mae y dyngarwr, ac efe yn farw, yn llefaru eto; a'i goffadwriaeth yn berarogl yn ffroenau pob un a garo ei gydddyn.

Rhennir bywyd ein harwr yn dri chyfnod. Y blynyddoedd cyntaf (1771-1817) oeddynt gyfnod o baratoad. Yn y blynyddoedd hyn y gwelodd y trueni oedd yn dilyn y drefn fasnachol newydd, a'r rhyfel dinistriol ddaeth i ben gyda brwydr Waterloo yn 1815; a cheisiodd,