Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a daeth o hyd, yn ol ei dyb ef, i'r ffordd yr oedd yn bosibl gwella cyflwr y gweithiwr drwyddi. Rhwng 1817 ac 1843 y gorwedd cyfnod yr Apostolaeth—yn y rhan gyntaf o hono ar lafar, ac yn y gweddill mewn ymarferiad. Cyhoeddwyd ei gyfundrefn newydd ar hyd a lled Ewrob a'r Amerig; a cheisiodd roddi mynegiad gweithredol i'w syniadau drwy sefydlu pentrefi cymuniaethol a hyrwyddo y Symudiad Cydweithredol a'r Undebau Llafur.

O 1844 hyd 1858 y mae yn syrthio i ddinodedd, nid oherwydd distewi o lais y proffwyd, eithr trymhau o glustiau y bobl. Aeth Robert Owen i eithafion rhy bell, derbyniodd rai syniadau dieithr; a chydrhwng dirywiad ei feddwl ei hun, a thyfiant symudiadau mawrion ereill (sef, yn enwedig, y Symudiad Siartistaidd), collodd ei afaecl ar y cyhoedd; a serch na phallodd ei frwdfrydedd mawr ei hun, bu farw cyn gweled ei syniadau wedi ennill en cyfiawn le ym mywyd y bobl.

Gwr a ymddangosodd cyn ei amser oedd Robert Owen, fel pob profiwyd arall. Y mae rhai o'r pethau y dadleuodd efe drosynt ymhlith ein sefydliadau mwyaf gwerthfawr heddyw ac o un i un fe ddaw llawer o'i ideals cymdeithasol i ben; ac fe roddir iddo ei briod le (yr hwn cyhyd a wrthodwyd, ac eto wrthodir iddo) ymhlith y gwyr hynny sydd wedi gadael eu hol yn annileadwy ar ddynoliaeth ar ei thaith tua'r wlad honno y mae ei bywyd a'i phethau yr hyn y dylent fod.