Tudalen:Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymholi cïaidd a gonestrwydd caled. Ni ddylid edrych ar y Brydd- est fel cerdd gwbl oddrychol am ei fod yn siarad yn y person cyntaf, gan mai llunio patrwm o sant oedd ei amcan ef, patrwm iddo ef ac i bawb arall. Y mae yn Bywyd a Marwolaeth Theomemphus brofiadau Pantycelyn, ond nid Pantycelyn yw Theomemphus.

Yn y Llethr Ddu, y fynwent gogyfer â'i gartref, y claddwyd penteulu balch, cenedlaetholwr ymdreulgar a Christion uniongred, ond yn ein hiraeth a'n colled dylem ddiolch i'r Gwynt, sef yr Ysbryd Glân, am iddo adael ar ei ôl un o gerddi mwyaf barddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.

D. GWENALLT JONES.