Tudalen:Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

Bu canmol ar sylwadau Aneirin Talfan ar Kitchener Davies ar y Radio y nos Lun ar ôl ei farw, ac ar gais rhai cyfeillion argreffir hwy yma:

Kitchener Davies. Kitchener! Paradocs o enw, ond enw digon gweddus i filwr. A milwr oedd 'Kitch'. Brwydrodd yn anialwch Y Rhondda. Gorymdeithiodd ei strydoedd tan faner Y Ddraig Goch. Arweiniodd ei fyddin fechan i'r gad "yn erbyn Goliath." A gellir dweud amdano yn ei eiriau ef ei hun a glywyd yn ei Bryddest Radio nos Fercher ddiwethaf:

Doedd dim taro arnat ti orymdeithio yn rhengoedd y di-waith,
Dy ddraig-rampant yn hobnobio a'r morthwyl a'r cryman..


Na, 'doedd dim taro, efallai, pe bait wedi bodloni ar fod yn daeog a gwerthu dy enedigaeth—fraint am seigiau swyddi bras y gallet ti a'th dalent a'th athrylith fod wedi'u cipio yn hawdd. Brwydrodd a syrthiodd yn y gad dros yr unig beth a oedd, yn ei olwg ef, yn werth ymladd drosto. Ond er iddo frwydro, er iddo ymladd yn ddiflino—nid anobeithiodd, ac ni chwerwodd. Yr oedd yn gymeriad annwyl iawn hyd y diwedd.

Kitchener Davies—y garddwr: Yn ei eiriau ef ei hun eto:

Wel na, a 'does arna' i ddim cywilydd cael arddel bod yr ardd wrth y tŷ wedi'i phalu drwy'r blynyddoedd a'i chwynnu yn ddygn nes bod y cefn ar gracio.

Rhan o ardd Cymru oedd Cwm Rhondda iddo ef, ac ymdrechodd i'w chadw yn lân; ymdrechodd i ddadwreiddio'r confolfiwlws a oedd, fel y cancr a'i lladdodd yntau, "yn ymgordeddu drwy'r ymysgaroedd." Mynnai gadw Cwm Rhondda i'r genedl, a'r genedl hithau yn ardd gan ffrwythlondeb. Ac yn yr ardd dwt honno o flaen ei gartref, Aeron, ar y Brithweunydd yn y Rhondda, y gwelodd ddarlun o'i deulu bach yntau, yr ynys unig o Gymreigrwydd yng nghanol môr o Seisnigrwydd yr unig wely heb ei ddifa yn yr ardd—"fy aelwyd, fy mhriod a'r tair croten fach." Bellach, y mae'r garddwr yn llonydd, a'r gaib a'r rhaw wedi'u gosod o'r neilltu.

Kitchener Davies—yr artist. Pan dreuliais brynhawn gydag ef ddydd Sadwrn diwethaf, ychydig oriau cyn ei farw, y peth cyntaf a wnaeth, bron, oedd estyn darn o'i waith imi. "Cymer olwg ar hwn." A dyna fynd ati i drafod drama o'i eiddo. Yna tro dros Eisteddfod Aberystwyth a'i chyfansoddiadau a'i