Tudalen:Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

beirniadaethau, a phob hyn a hyn, y llygaid yn goleuo, a gwên yn dyfod i'r gwefusau, a chysgod yr hen Kitchener a adwaenwn, ac a adwaenai llaweroedd o'i gydnabod ar hyd a lled Cymru, yn dyfod i'r golwg. Y 'Kitch' hwnnw a welsom ar dân ar lwyfannau; y Kitchener a roes sioc i gynulleidfaoedd rispectabl-foethus gyda'i Gwm Glo; Kitchener y Cardi o Gors Caron a roes inni ias o hyfrydwch oer-gyda'i Feini Gwagedd; y Kitchener a gyflwynodd ei destament olaf i wrandawyr Cymru mewn Pryddest Radio, a hynny o'i wely angau, pan oedd ei ddwylo'n rhy fusgrell i ddal ei bin-'sgrifennu. Yn Kitchener Davies collodd Cymru wladgarwr ac artist diffuant; ni all Cymru fforddio colli ei debyg.

Boed y Nef yn dyner wrth ei briod annwyl a'i "dywysogesi balch" ei dair croten fach.

Dylid diolch i Aneirin Talfan am roddi i'r beirdd gyfle i lunio Pryddestau, a chyfrwng i'w hadrodd, a gall fod yn well symbyliad i'r beirdd na chystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Y mae Pryddest Kitchener Davies yn unig wedi cyfiawnhau'r antur. Pan adroddwyd ei Bryddest y tro cyntaf ar y Radio aeth y Wasg ati ar unwaith i lunio rhamant; disgrifiwyd hi fel testament olaf y bardd ar ei wely angau. Gofynnodd Aneirin Talfan i Kitchener Davies am Bryddest Radio, tua gwyliau Nadolig 1951, a bu ef a'i wraig yn trin a thrafod y Bryddest cyn iddo gael ei daro'n sâl, ac ar ôl iddo gael ei daro'n sâl a chyn myned i'r ysbyty. Rhwng dwy operesion yn yr ysbyty, tua phump o'r gloch y bore ar ôl y golchi a chyn brecwast, y cyfansoddwyd hi, a phan ymwelai ei wraig ag ef y nos darllenai'r darn a gyfansoddodd y bore er mwyn iddo gael gwrando ar ruthm ei linellau. Newidiodd rai llinellau ac ychwanegwyd darnau, a gorffennwyd hi ymhen wythnos. Wrth gwrs, y mae ôl yr ysbyty a'i glefyd ar y Bryddest, ond yr oedd ei deunydd hi yn ffrwyth darllen a myfyrdod blynyddoedd.

Fel y gwelir wrth ddarllen ei bennod, "Saunders Lewis a'r Ddrama Gymraeg" yn y llyfr, Saunders Lewis Ei Feddwl a'i Waith a olygwyd gan Pennar Davies, gwnaeth Kitchener Davies astudiaeth arbennig o ddramâu Saunders Lewis, ac iddo ef y ddrama bwysicaf oedd Amlyn Ac Amig. "Argyfwng a throedigaeth Amlyn" meddai Saunders Lewis yn y Rhagair i'w ddrama, "yw pwnc fy nrama i." 'R oedd Kitchener Davies hefyd yn hyddysg yng ngwaith T. S. Eliot. Ychydig cyn iddo farw darllenodd lyfr diwethaf T. S. Eliot, Poetry and Drama, a dywedodd fod Eliot yn pregethu ynddo rai syniadau ynglŷn â thechneg a iaith drama y bu ef ei hun yn eu pregethu cyn hynny, a cheir rhai ohonynt yn y bennod ar ddramâu Saunders Lewis. Iddo ef drama bwysicaf Eliot oedd Lladd wrth yr Allor. Aman Eliot yn ei ddrama oedd. llunio merthyr ac amcan Saunders Lewis yn Amlyn ac Amig oedd llunio sant. Pwrpas Kitchener Davies yn y Bryddest hon oedd 'creu sant'.