Tudalen:Sadie.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y Golofn Lenyddol.[1]

DAN OLYGIAETH ANTHROPOS.

'SADIE.'

I.

Yn mhlith y llyfrau y byddaf yn eu hestyn oddi ar y silff ar ambell awr dawel yn min nos gallwn nodi 'Twilight Hours,' cyfrol o farddoniaeth. Dyma'r trydydd argraphiad, yr hwn a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1872, gan Strahan a'i Gyf., Llundain, a than olygiaeth y diweddar Ddeon Plumtre. Yr awdures ydoedd Miss Sarah Williams, yr hon a adwaenid wrth yr enw 'Sadie'. Y mae'r Deon Plumtre wedi ysgrifenu cofiant iddi yn nechreu'r llyfr, ond prin iawn ydyw y ffeithiau a roddir ynddo. Gallwn gasglu oddi wrth yr hyn a ddywedir, a hyny yn hynod o gynnil, fod 'Sadie' yn Gymraes, fod ei chartref yn y brifddinas; ac iddi, pan yn dra ieuangc, ddangos arwyddion digamsyniol o athrylith farddonol. Enw ei llyfr cyntaf ydoedd 'Enfysau'r Gwanwyn' llyfr i blant. Ac yn y blynyddoedd dilynol ymddangosodd y rhan fwyaf o'i gwaith barddonol yn y 'Good Words.' Coleddid gobeithion uchel am dani fel awdures; ond, pan oedd ei hathrylith loyw yn ymagor, ac yn dadblygu, disgynodd y lleni ar ei bywyd, a chafodd hithau ei rhestru yn mysg y telynau a dorwyd yn gynnar. Casglwyd pethau goreu ei hawen ynghyd, a dyna ydyw y 'Twilight Hours'—cyfrol goffa i'r farddones ieuangc a hynaws. Ond, os ydyw yr hyn y barnwyd yn ddoeth i'w gyhoeddi am ei bywyd personol yn ychydig ac yn brin, y mae ei chynnyrchion barddonol

yn dadguddio nodweddion ei meddwl—ei dull o feddwl.

  1. Y Golofn Lenyddol. Baner ac Amserau Cymru; 5 Awst 1908