Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Sadie.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond y mae yn y llyfr un gân sydd yn appelio yn uniongyrchol at galon a serch y Cymro—'O, fy hen Gymraeg' Portread ydyw o'r hyn sydd wedi digwydd ganwaith Cymraes ar ei wely angau wedi myn'd, yn moreu ei hoes, o fryniau Cymru i Lundain. Y mae'r hen gysylltiadau yn darfod, a hithau wedi ymgymmysgu a'r bywyd Saesnig. Cillodd Cymru a Chymraeg o'i meddyliau, a diflanodd yr iaith o'i chof. Saesneg sydd ar y aelwyd: Saeson ydyw y plant. Aeth y blwyddi heibio; a dyna hi, mewn hensint a llesgedd ar ei chlaf wely, mewn heol fechan, gul, yn y brifddinas. Y mae ei merch yn gwylio wrth ei gwely, a'r nos—nos olaf iddi ar y ddsear wedi dyfod. Ond, yn yr oriau hyny, ymruthrodd un o weledigaethau boreuddydd oes ger ei bron. Y mae yn gweled el hun mewn ardal fynyddig yn Nghymru, ac yn cyfarch ei merch oedd yn eistedd ger llaw—O fy hen Gymraeg! Wele efelychiai led rydd o eiriau y gân

Na, nid oes eisieu dim, fy merch,
Cymmerwch y ganwyll i ffwrdd,
Câf ddigon o oleu i huno yn awr,
A'r dydd ddaw'n fuan i'm cwrdd:
Dim ond un peth sydd eisieu,
Yn nyfnder fy nghalon i—
O, am un gair o iaith fy mam,
A'r weddi arferai hi!
'O, fy hen Gymraeg!'

Dylaswn eich dysgu i'w siarad
Pan ydoedd fy meddyl yn glir,
Ond eiliodd i ffwrdd, gycs phethau lu,
Sydd yn y gorphenol hir:
Dim ond rhyw afon lydan
A welaf yn awr ar fy hynt.
Pa le mae y bryniau gwyrddlas?
Y bryniau a grwydrais gynt—
'O, fy hen Gymraeg!'

Mae'r bobl yn oer ac estronol,
Anwylyd, nid felly chychwi!
Mae'r awyr yn ddu ac ystormus,
A'r heol—mor oer ydyw hi!
Does yna ddim Cysur na thegwch
I'w ganfod i'r llygaid hyn,
Fu'n syllu ar flodau y gwanwyn.
A'r glesni ar lechwedd y bryn:
O, fy hen Gymraeg!'

Ond, ust! am funyd, anwylyd,
Golygfa i f'ymel ddaw—
Y anerch lle byddem yn chwareu,
Dan gysgod y mynydd draw;
Ac yno, ar foreu hafaidd.
Daeth un o genhadon hedd,
Gan sibrwd yn dyner â phlant y fro,
A goleu y nef yn ei wedd:
O, fy hen Gymraeg!'

Casglasom yn dyrfa o'i ddeutu,
Gan draethu'n breuddwydion ffol,
A gwelais dynerwch el lygaid dwys.
A ninnau yn gwasgu i'w gol:
Ai tybed y daw ein breuddwydion i ben?
Ai cysgod i gyd ydynt hwy?