Tudalen:Sadie.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Attebodd—ei weled yr ydwyf yn awr,
Yn sefyll dan gysgod y mynydd mawr,
Mae holl ddymuniadau calon dyn
I gael eu llanw gan Dduw ei hun,
Ac ni fydd un gofid mwy."
Gorphwysfa! O, gorphwysfa!
Gogoniant! Amen!"

Ar waelod y ddalen dywedir fod y geirau olaf yn y gân yn cyfeirio at y floedd orfoleddus a glywid yn nghymmanfaoedd pregethu Cymru; ac mai gwrandaw ar yr ymadroddion hyn a roddes syniad i Handel am yr Haleliwiah Chorus. Pa le y clywodd Handel 'hwyl gorfoledd' oedfaon Cymru, tybed? Bu yn teithio drwy ranau o'r wlad fwy nag unwaith. A fu efe ar Green y Bala? A glywodd efe rai o gewri y pulpud Cymreig? Dichon mai dyfalu yr ydym, ond meddylier am Handel yn gwrandaw torf yn gorfoleddu ar Green y Bala,' Ac wrth wrandaw yn cael y drychfeddwl ardderchog sydd wedi ei weithio allan yn yr Halleliwiah Chorus.' Os felly, y mae gan Gymru reswm arbenig dros fawrhau y gydgan anfarwol hono, a'i chanu yn ei phrif wyliau cenedlaethol.