Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nad ydyw'r Hollalluog yn ewyllysio bod yn cael ei adnabod a'i ogoneddu gan ddynolryw, namyn Brenin nef yn unig. Nid ydyw dyn a fo'n cael ei osod, neu'n ei osod ei hun yn frenin ond mal un a fae'n ceisio cymryd gorchwyl yr Hollalluog o'i law; a sicr os bydd ei ddeiliaid yn canu mawl i'w brenin yn eu heglwysydd, ac yn cusanu ei ddwylaw ef wedi dyfod allan, a llawer yn ei ofni ef, a rhai yn cymryd arnynt ei garu ef, rhai eraill yn ei foli ef ac yn ei anrhydeddu ef, ymhob cyrrau i'r ddinas, mae dyn felly wedi myned yn Dduw ei hun. A pha le bynnag y mae dyn wedi myned felly, nid oes ganddo ef na'i folwyr ond ychydig o barch i Frenin nef, neu mi ddalient ychydig sylw ar y geiriau— "Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i."

Am ba beth y barnwyd ein Hiachawdwr i farwolaeth ond am siarad yn erbyn y brenin a'r llywodraeth? A pha ddyn a chalon uniawn yn ei fynwes, a fedr fod yn ddistaw mewn gwlad yn y byd, mewn un oes a fu erioed, os bydd ef yn gweled cam cyfraith, ac yn dyst o gam lywodraeth? Mae yn ddyledus ar bob dyn, sydd yn byw trwy onestrwydd (ac yn enwedig os bydd ef yn berchen dysg a dawn) lefaru ac ysgrifennu, ac hysbysu, ac eglurhau i'w gydwladwyr, eu bod yn cael cam-lywodraeth, a rhoi y cyngor gorau a fedr roi iddynt i ymwrthod â'u gorthrymder; a hynny trwy bwyll yn amyneddgar, pan gaffont gyfleustra.

Mae hanes erchyll ofnadwy am orthrymder brenhinoedd mewn gwledydd tramor; ond mae hanes penau coronog Lloegr yn drwstan a gwaed- lyd a phuteinllyd agos drwyddo. . .