Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neu ddûc, neu iarll, neu ryw enw mawr o'r fath a fae'n berchen gwerth pum mil o bunnau neu ragor o dir yn y flwyddyn, ac y byddai raid iddynt dalu'r dreth uchod neu golli'r anrhydedd o fod yn arglwyddi neu'n ieirll, a chymryd eu henwau bedydd rhagllaw. Boed inni feddwl ymhellach fod y Senedd-dy cyffredin yn cytuno i hynny, ac yn gyrru'r weithred at yr arglwyddi, ac i'r rheini ddechrau myfyrio pa un orau iddynt ai cymryd eu henwau bedydd ai talu pum cant yn y flwyddyn?

Ni fyddai raid iddynt ddim bod cyd yn myfyrio ar y pwnc yna ag a fuont yn myfyrio ar dreial Warren Hastings. Mi godai ryw arglwydd ardderchog ar ei draed tan faich digydwybod o lefydd ac o swyddau, ac a ddywedai, "O anrhydeddus a grasusol arglwyddi, mae'n hysbys i chwi i gyd gymaint parch a mawredd a chymeriad yr ydym ni yn ei gael gan y bobl gyffredin oherwydd ein henwau cedyrn nerthol a diwahanol; ac er cymaint o synnwyr ac o ddoethineb oedd gan ein teidiau, yr oeddynt hwy i gyd yn gwybod mai gwell oedd iddynt gael eu galw yn arglwyddi yn lle eu henwau bedydd, oherwydd yr oeddynt hwy ac yr ydym ninnau'n cael mwy o barch oherwydd ein henwau nag yr ydym yn ei gael oherwydd ein gweithredoedd; ac er i'r bwystfil ofnadwy Tom Paine ddyfod yma o'r America gythreulig, a dweud wrth y bobl mai llofruddion a lladron oedd ein hynafiaid ni, ac mai trwy nerth arfau a thrwy ladd y bobl isel radd y cafodd ein teidiau y tiroedd helaeth a ydym ni'n ei feddiannu heddiw. Ac er i'r sarff a enwais eisoes ddywedyd mai er mwyn cael ymadael â'r cywilydd oedd arnynt oherwydd y lladrad hwnnw