Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oes mo'r un o ugain ag sydd yn talu treth yn cael llais yn y llywodraeth; heblaw hynny, mae ambell bentref lleuog wedi hanner braenu, na thâl hynny o dai a fo ynddo fe mo'r canpunt, yn gyrru dau aelod i'r Senedd; ac nid oes gan lawer o drefydd mawr, fel Birmingham neu Manchester, ddim hawl nac awdurdod i ddanfon undyn i siarad trostynt yn y Senedd. Wrth hynny mae'n eglur na fu yn Lloegr erioed reolaeth ar lywodraeth wrth feddwl ac ewyllys y bobl yn gyffredin. Mae sir Ddinbych (a llawer o siroedd eraill yng Nghymru) yn danfon dau ddyn i'r Senedd; ond ni welais i erioed ddim o waith y gwŷr da hynny yn areithu ar yr un pwnc, pa un ai diffyg doniau a llithrigrwydd ymadrodd sydd arnynt, ai cael rhywbeth am dewi y maent, sydd beth pur anhawdd ei wybod; ond pa un bynnag, pan fo dynion yn aelodau o'r Senedd am amryw flynyddoedd, ac heb ddywedyd un gair, drwg na da, na gwneuthur dim arall ond codi eu dwylaw i foddio pobl eraill, ni byddai waeth i'r bobl sy'n eu danfon nhw ddanfon yr un nifer o wyr gwellt, a llinyn wrth fraich pob un, i gyrraedd at law aswy Will Pitt, i gael iddo ef dynnu eu breichiau nhw i fyny pan fyddai achos.

Mi ddywed rhai fod pob peth yn ei le yn sir Ddinbych neu sir Feirionnydd, neu ryw sir arall, lle mae'r bobl fudion yma'n cael eu danfon i'r Senedd; ac nad oes dim eisiau i'r aelodau siarad pe baent yn medru. Chwenychwn ofyn i'r rhai a ddywed hynny, a ydyw pobl sir Ddinbych yn byw yn well, ac yn esmwythach, ac yn ddedwyddach, yn yr amser yma nac yr oeddynt yn amser yr hen Syr Watkin? Mae'n ddiamau gen i fod llawer hen ŵr penllwyd yn barod i ateb,