Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn drydydd, y mae'n arferol i holl denantiaid a fo'n byw ar dyddynnod y gŵr fyned i'r etholiad i floeddio gyda'u meistr, a rhai eraill yn dyfod i floeddio yn eu hwynebau, a fo gyda'r gwr arall; a dyna lle byddant hwy yn bloeddio yng nghlustiau ei gilydd, na ŵyr mo'i hanner hwy ddim am ba beth y maent yn bloeddio, onid ydynt yn bloeddio o lawenydd gael rhyw sucan o ddiod heb dalu am dani.

Gadewch i'r philosophyddion cegau agored yma fyned i Ddinbych neu Gaernarfon, neu ryw gaer arall, i floeddio hefo rhyw ŵr bonheddig, am gael bwyd a diod am eu poenau, mi floeddient hwy yn ei erbyn ef drannoeth am yr un gyflog, yr un fath a'r bobl a oedd yn llosgi llun Thomas Paine am gyflog. Mae yn bur debyg y buasai'r gwŷr dysgedig rheini yn llosgi llun Sior Guelph am yr un bris.

Nid ydyw'r dyn a fyddir yn ei ddewis ddim doethach na gwell, er i bum cant o bobl floeddio yn ddidaw am dridiau; ac nid ydyw'r peth a ddywedir neu ysgrifennir yn wir gadarn yn ei le ddim gwaeth, er llosgi llun yr awdur ym mhob pentref trwy'r gwledydd. Oherwydd hynny, methais erioed ddeall i ba beth mae bloeddio a chrygleisio da mewn etholiad, nac addoliad. Ond os brefu, ac udo, a bloeddio ydyw'r orchest mewn etholiad, asyn a chorn gwddw go gadarn ganddo a fyddai debycaf o ennill y gamp, nag yr un dyn a fu erioed yn lledu ei hopran ar yr achos.

Y ffordd orau a welais i erioed ar ethol pobl yn aelodau o ryw gymdeithas oedd yng nghymdeithas y gwyneddigion yn Llundain. Wedi i ddyn gael ei gynnig i ddyfod yn aelod o'r gymdeithas, ac i'r cynigiad hwnnw gael ei gefnogi gan aelod arall,