y mae ar y noswaith ganlynol yn ei ethol neu'n ei wrthod ef yn y modd hyn; yn gyntaf, mae ganddynt docynnau crynion, agos o faintioli swllt o arian, ac y mae y naill hanner yn dduon, a'r llall yn wynion; yna mae'r gwyliedydd yn cymryd y blwch, lle maent yn cadw, ac yn rhoi un du ac un gwyn i bob aelod a fo'n yr ystafell; yn nesaf mae'r llywydd yn enwi'r dyn a fo i'w ddewis gyd â enw'r plwyf a'r sir y byddo ef wedi ei eni a'i fagu yng Nghymru, ac mae'r gwyn sydd yn dewis a'r ddu sydd yn gwrthod; yna mae'r gwyliedydd yn myned o amgylch yr ystafell i gynnull un oddi ar bob aelod i'r blwch, ac wedi darfod, yn myned a'r blwch i'r llywydd, ac yntau yn ei agor ef ger bron y gymdeithas; felly os bydd ynddo fwy o rai gwynion nag o rai duon, mae'r dyn wedi ei ddewis yn aelod; neu os bydd mwy o rai duon, wedi ei wrthod. Ond ni ŵyr neb un o'r aelodau pa un ai'r du ai'r gwyn a fydd y llall wedi ei roi, oherwydd mae lle i ollwng y tocynnau i'r blwch yn ddirgel, a'r gwyliedydd yn dyfod yr ail dro i nol y llall yr un modd a'r cyntaf; felly os bydd rhyw ddyn a debygir ei fod yn dyngwr, neu yn feddwr, neu tan ryw fai afreolaidd arall yn cael ei wrthod ni wyr ef na'r rhai a ddaeth ag ef yno ddim wrth bwy i fod yn ddig am ei wrthod ef er ei fod ef yno ei hun.
Rhyw fodd tebyg i'r dull uchod a fyddai well wrth ddewis aelod i'w ddanfon i'r senedd, oherwydd mi gai bob un wneuthur ei feddwl ei hun. a hynny yn ddiofn ac yn bennaf o'r cwbl, mi nadai'r llid a'r anghariad a fydd dewis aelod neu ryw swyddog yn ei fagu rhwng cymdogion.
Esgobion ac Offeiriaid
Bellach daliaf ychydig sylw ar y pethau rhyfeddaf ag sydd yn perthyn i lywodraeth Lloegr.