Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn gyntaf, peth rhyfedd fod y cyffredin yn gorfod talu myrddiwn o bunnau yn y flwyddyn i gadw un dyn. Ni ddichon un dyn fwyta, nac yfed na gwisgo mo werth y ganfed ran o'r arian. Yn ail, peth rhyfedd i ddyn a fo'n cadw gwraig a phlant yn lân ac yn drefnus, ac yn ennill dim ond pum swllt neu chwech yn yr wythnos feddwl fod Tywysog Cymru wedi rhedeg i filoedd o ddyled er ei fod e'n cael ychwaneg na phedwar cant o bunnau yn ddyddiol at ei gadw.

Ond y peth rhyfeddaf a glybuwyd erioed ymhlith pobl wylltion ddi-gred, ragor Cristnogion, fod pedwar esgob yn cael taledigaeth fawr am gymryd arnynt bregethu i bobl, na fedr yr esgob ddarllen mo'i bader yn eu hiaith hwy; ac er nad ydyw'r esgob yn deall mo iaith y bobl, na'r bobl iaith yr esgob, mae e'n deall pa fodd i dderbyn eu harian hwy; ac wrth hynny yn tylodi'r wlad, ac yn cadw'r bobl mewn tywyllwch o anwybodaeth, oherwydd mi wnai'r arian yr ydys yn ei dalu at gadw esgobion ac offeiriadau ag sydd yn gweled yn ormod poen ddarllen a phregethu eu hunain lawer mwy o les o'u rhoi'n dâl am ddysg plant dlodion Cymru; pa rai sy'r awrhon yn cael eu cadw mewn cwmwl o anwybodaeth i weithio ac i ymboeni i gadw estron genedl.

Mae'n gywilydd i foneddigion ac offeiriadau Cymru na fyddent yn barod i gynhyddu ac i gynorthwyo ysgolion Cymraeg er mwyn plant y Cymry uniaith; ond am un a fo'n barod i ddysgu ac i gynhyddu gwybodaeth, mae deg o offeiriadau na fynnant ddim sôn am y fath beth; ac ambell gecryn o offeiriad dideimlad yn erbyn rhoi eglwys ei blwyf i ryw ddynan synhwyrol dysgedig, yn ddiddos iddo i ddysgu plant ddarllen ac ysgrifennu