Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond ym mherthynas i grefydd ei hun, a gadael yr enwau o'r neilltu, fel ped fai holl deulu dynolryw yn hyfforddi eu meddyliau i wrthrych pob addoliad, dyn yn tywallt ffrwythau ei galon o flaen ei greawdwr ydyw crefydd, ac er ei bod yn rhagori fel ffrwythau'r ddaear, gallant i gyd fod yn dderbyniol gan awdur y byd. Ni bydd esgob ddim yn gwrthod ysgub o wenith o eisiau ei bod hi'n fwdwl o wair, na mwdwl gwair o eisiau ei fod yn ysgub wenith, nac oen oherwydd nad ydyw yr un o'r ddau; eto nid yw'r difynydd yma ddim yn fodlon i'r Hollalluog dderbyn ffrwythau calon dyn trwy amrywiol ddull o addoliad.

America a Ffrainc

Ni ddarfu'r gynulleidfa a wnaeth reolau a chyfreithiau llywodraeth America, ddim gwneuthur cyfraith i godi degymau i gadw offeiriadau i ddarllen ac i bregethu crefydd wedi ei gwneud gan y Rhufeiniaid neu'r tyrciaid, neu ryw wag ladron eraill, a oedd ac y sydd yn ysbeilio y werin, a hynny yn enw rhyw ragrith o grefydd. Ond y mae'r America yn rhydd i bob dyn addoli fel ag y mynno, a thalu at y grefydd a fynno, neu beidio a thalu at grefydd yn y byd, os bydd ef yn gweled hynny'n orau. Mae porthladdoedd yr America mor agored, ac mor barod i dderbyn pobl a fo am fyw yn rhyddion, ac a fedro ddiengyd o ewinedd gorthrymwyr, ag ydyw pyrth y nef i dderbyn pechaduriaid o grafangau satan. A oes ryfedd gan hynny fod pobl onest, sydd yn chwennych cael llonyddwch a chyfiawnder, yn myned yno; ac er iddynt ddioddef caledfyd ar y cychwyn, mi fydd eu plant hwy yn cael eu dwyn i fyny mewn gwlad rydd! Mae pob dyn yno yn byw wrth ei feddwl ei hun; ac ni raid iddo ymostwng i neb ond i gyfraith y tir, ac nid oes yno yr