Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1766. Yno, yn gweithio ar y fferm, y bu nes bod yn 23 oed. Aeth i Ysgol Ramadeg Llanrwst am ychydig, a dechreuodd brydyddu. Canodd lawer o gerddi gogan.

Pan oedd yn 23 oed, fe ffoes i Lundain o ffordd gwyr y gyfraith, a chafodd waith gyda groser yn y brifddinas. Daeth yn ôl i Gerrig y Drudion ymhen blwyddyn, ac yn ôl i Lundain wedyn ymhen pum mis. Yn 1793 fe'i cawn ef yn rheoli tafarn Canterbury Arms, Southwark, Llundain. Yn 1818 daeth yn denant Tafarn y King's Head, Ludgate-street. Bu'n amlwg iawn yng Nghymdeithas y Gwyneddigion yn Llun- dain.

Yn 1795, ac yntau'n 29 oed, y cyhoeddwyd Seren Tan Gwmwl, a bu rhaid iddo ffoi o Lundain am ysbaid o'i herwydd. Ddwy flynedd wedi hynny cyhoeddodd Toriad y Dydd.

Bu farw yn ei dŷ yn Ludgate-street, Llundain, yn 1821, wedi casglu cryn eiddo ac wedi prynu rhai o ffermydd gorau Cerrig y Drudion. Yr oedd Cymry eraill, o'r un ffydd â "Glan y Gors," yn ysgrifennu tua'r un adeg: Morgan John Rhys, Dr. Richard Price, Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi), a Thomas Roberts, Llwynrhudol; ac yn eu llinach hwy y cododd Robert Owen y Sosialydd, S.R. Llanbrynmair, Gwilym Hiraethog, R. J. Derfel, Michael D. Jones, Henry Richard, Thomas Gee, a David Lloyd George.