Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'ch morwynion; eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a'ch asynod a gymer efe, ac a'u gesyd i'w waith; eich defaid hefyd a ddegyma efe, chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef. A'r dydd hwnnw y gwaeddwch rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi; ac ni wrendy'r Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw.

Peth rhyfedd iawn na buasai rhai o'r offeiriadau yma yn cymryd y rhagddywededig eiriau am ddull brenin, yn destun i'w pregeth ar y diwrnod ympryd diweddar, neu'n hytrach ddiwrnod gweddïo gyda'r brenin; oherwydd nid oes, yn fy marn i, ddim mwy eglur na golau i'w gael mewn llyfrau am ddull a chyrhaeddiad, ymchwiliad ac ymddygiad brenin tuag at ei ddeiliaid. Ond gwir yw'r hen ddihareb,—"Nid rhyfedd dim a gwybod yr achos." Gan hynny, rhowch gennad im ddal sylw, pa beth oedd ac ydyw'r achos na chymerai ryw offeiriadyn y geiriau uchod yn destun i'w bregeth?

Yn gyntaf, mae'r esgobion a'r offeiriadau (nesaf at y Pab ond un ar ei law chwith) megis brenhinoedd eu hunain, ac yn fwy gorthrymwyr i'w plwyfolion nag a fu Nero erioed yn Rhufain. Felly ped fae'r fath wŷr â hwynt yn pregethu ar y testun, ac yn cadw at eu testun (peth pur anaml iddynt wneud) mi fyddai raid iddynt ollwng y gath allan o'r cwd, a dangos eu dull eu hunain yn ei belydr ei hun; y peth mae arnynt ofn yn eu calonnau i neb arall wneud ragor gwneud eu hunain.

Felly pan fo'r gwŷr mawr blonhegog yn rhoi araith unwaith neu ddwywaith yn y flwyddyn (a phob gair ohono'n dyfod i chwecheiniog neu ychwaneg) maent yn cymryd rhyw destun lled dywyll